Mae maetheg yn chwarae rôl allweddol yn yr atal a thriniaeth o amrywiaeth eang o gyflyrau iechyd. Mae ein hadran yn gweithio â chleifion ysbyty, y cyhoedd cyffredinol ehangach a gweithwyr proffesiynol iechyd eraill a sefydliadau i hybu iechyd a lles.
Mae ein tîm yn cynnwys dietegwyr, nyrsys maeth, maethegwyr a staff cymorth gydag amrywiaeth eang iawn o brofiadau ac arbenigedd clinigol. Rydym yn gallu asesu a thrin materion deietegol o blant ac oedolion mewn iechyd a chlefyd. Rydym yn trefnu a rheoli cymorth maeth artiffisial ar gyfer cleifion pan fo angen yn yr ysbyty ac yn y gymuned.
Mae ein staff yn gweithio fel rhan o dimau aml proffesiynol sydd yn darparu gwasanaethau sy'n seiliedig ar ysbyty a chymuned gan gynnwys ymgynghoriadau cleifion allanol, gwaith ward, addysg a hyfforddiant o staff a chleifion. Rydym yn darparu rhaglenni grwpiau addysg ar gyfer cyflyrau cronig fel diabetes, adsefydlu cardiaidd, rheoli pwysau ac mae ein tîm Sgiliau Maeth am Oes yn gweithio o fewn mentrau iechyd cyhoeddus i hyrwyddo bwyta'n iach yn ein poblogaeth leol.
Mae dewis y person cywir i geisio am help a chymorth yn gallu fod yn dasg ddryslyd. Mae llawer o bobl yn honni ei fod yn arbennigwyr ym maetheg ond yn cael gwybodaeth gyfyngedig ac yn cynnig dim diogelwch i'r cyhoedd.
Mae deietegwyr yn weithwyr proffesiynol cymwys rheoledig sy'n asesu, diagnosio a thrin problemau ar lefel unigol ac iechyd cyhoeddus ehangach.
Maent yn defnyddio'r ymchwil wyddonol ac iechyd cyhoeddus diweddaraf ar fwyd, iechyd a chlefydau y maent yn eu trosi'n ganllawiau ymarferol i alluogi pobl gwneud dewisiadau ffordd o fyw priodol.
Am wybodaeth bellach am beth yw dietegydd, cliciwch ar y ddolen hon.
Rydym yn croesawu unrhyw adborth ynghylch ein gwefan/ gwasanaeth. Os oes gennych chi unrhyw sylwadau, e-bostiwch SBU.DieteticManagement@wales.nhs.uk.
Gweler isod manylion cyswllt ar gyfer ein adrannau: -
Adran Maetheg a Deieteg
Ysbyty Treforys,
Treforys,
Abertawe SA6 6NL Ffôn: 01792 703239
SBU.MorristonDieteticReferrals@wales.nhs.uk
Oriau Agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8.30am – 4.30pm yn eithrio Gwyliau Banc
Adran Maetheg a Deieteg
Ysbyty Singleton,
Lôn Sgeti,
Abertawe, SA2 8QA Ffôn: 01792 285342
SBU.SingletonDieteticReferrals@wales.nhs.uk
Oriau Agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8.30am – 4.30pm yn eithrio Gwyliau Banc
Adran Maetheg a Deieteg
Ysbyty Castell-nedd Port Talbot
Ffordd Baglan
Port Talbot, SA12 7BX: Ffôn: 01639 862068
SBU.NPTHDieteticReferrals@wales.nhs.uk
Oriau Agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8.30am – 4.30pm yn eithrio Gwyliau Banc
Tîm Sgiliau Maeth am Oes
Canolfan Adnoddau Castell-nedd Port Talbot
Heol Moor, Ystad Ddiwydiannol Baglan
Port Talbot, SA12 7JB: Ffôn: 01639 683187
SBU.NutritionSkillsforLife@wales.nhs.uk
Oriau Agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8.30am – 4.30pm yn eithrio Gwyliau Banc
Adran Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu Maetheg a Deieteg
Llawr Cyntaf-Bloc Un
Ysbyty Glanrhyd
Heol Tondu
Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4LN Ffôn: 01656 753411
Oriau Agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8.30am – 4.30pm yn eithrio Gwyliau Banc
Mae Taflenni Ffeithiau Bwyd Cymdeithas Ddeieteg Prydain (BDA) wedi'i ysgrifennu gan ddietegwyr i'ch helpu chi ddysgu'r ffyrdd orau i fwyta ac yfed i gadw'ch corff yn ffit ac yn iach. Mae'r adnoddau hyn i chi lawrlwytho ac argraffu ar gyfer cyfeiriad eich hun.
Dilynwch y ddolen hon ar gyfer y taflenni Ffeithiau Bwyd Cymdeithas Ddieteg Prydain (BDA).
Efallai bydd y Gwasanaeth Maetheg a Deieteg yn casglu a storio eich gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth diogelu data’r GIG a chenedlaethol ar gyfer y ddarpariaeth o iechyd parhaus neu ofal cymdeithasol neu driniaeth. Dilynwch y ddolen hon i weld ein Maeth a Dieteteg hysbysiad preifatrwydd.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.