Neidio i'r prif gynnwy

 phwy y byddwn yn rhannu'ch gwybodaeth?

Rhennir eich gwybodaeth â PKB, darparwr PCBA. Mae PKB yn sefydliad ar wahân i’r GIG ac wedi’u cytundebu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar gyfer cyflenwi’r PCBA. Ni fyddant yn gallu darllen eich gwybodaeth glinigol, dim ond eich demograffeg (enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost ac ati). Mae'r holl wybodaeth glinigol a rennir â nhw wedi'i hamgryptio sy'n golygu na all PKB gael mynediad iddi. Dim ond yr unigolion a'r sefydliadau hynny yr ydych yn dewis eu cyrchu'n benodol sy'n gallu ei darllen.

Os byddwch yn hawlio eich cofnod ar Borth Cleifion Bae Abertawe, byddwch wedyn yn cael y cyfle i weld a rhannu eich gwybodaeth â phwy bynnag y byddwch yn ei ddymuno, a gellir newid y dewisiadau hyn unrhyw bryd.

Chi, eich cynrychiolydd enwebedig os oes gennych un (perthynas agosaf er enghraifft) a'r PKB eu hunain sy'n penderfynu ar unrhyw ddefnydd neu rannu pellach unwaith y bydd eich gwybodaeth ym Mhorth Cleifion Bae Abertawe ac yn cael ei hawlio gennych chi. Os bydd PKB yn cysylltu â chi yn y dyfodol i awgrymu y dylid defnyddio neu rannu eich gwybodaeth ymhellach, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y wybodaeth a roddir i chi ganddynt yn ofalus gan na fydd gan y GIG reolaeth dros eich gwybodaeth bryd hynny; chi a PKB fydd yn ei rheoli.

Gallwch ddarllen yr hysbysiad preifatrwydd Patient Knows Best yma. Sylwir os gwelwch yn dda bod rhai dolenni allanol ddim ar gael yn y Gymraeg.

Efallai y bydd adegau pan fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth ag eraill. Bydd hyn ond yn cael ei wneud pan fydd sail gyfreithlon i wneud hynny ac yn unol â’r dibenion a restrir uchod.

Bydd rheolaeth data (pwy sy’n rheoli eich gwybodaeth) yn amrywio yn dibynnu ar bwy sy’n mewnbynnu’r wybodaeth, pam mae’n cael ei mewnbynnu a chyda phwy y caiff ei rhannu. Gallwch ddarganfod mwy am hyn trwy ddarllen adran nesaf yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.