Neidio i'r prif gynnwy

Brechlynnau COVID-19: cyngor ar gyfer cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig

Llun o ddyn yn cael ei frechu 

Neidiwch i'r Cwestiynau Cyffredin ar y dudalen hon i gael atebion i rai o'r cwestiynau pwysicaf sydd gennych ynglŷn â'r brechlynnau, a hefyd dolenni i fwy o ffynonellau swyddogol gyda cyngor.

Mae rhaglen frechu COVID-19 Bae Abertawe bellach ar y gweill ac rydym yn annog pawb i gael eu brechlyn pan gynigir apwyntiad iddynt.

Dilynwch y ddolen hon i gael mwy o wybodaeth ar sut mae brechiadau COVID-19 yn cael eu cyflwyno ar draws ardal Bae Abertawe, gan gynnwys pryd rydych chi'n debygol o dderbyn eich brechlyn.

Rydym eisoes yn gweld llai o bobl yn cymryd y brechlyn yn ein cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) ond mae'n bwysig iawn bod pawb yn cael eu brechu, er mwyn eich amddiffyn chi, eich teulu, ffrindiau a'ch cymuned rhag y coronafirws.

Ar y dudalen hon fe welwch lawer o wybodaeth a fydd yn eich helpu i wneud penderfyniad hyddysg am y brechlyn COVID-19. Mae rhai o'n meddygon BAME, nyrsys a staff arall y bwrdd iechyd hefyd wedi camu ymlaen i siarad pam eu bod wedi penderfynu cael y brechlyn, a pham y dylech chi hefyd.

 


Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.