Mae croeso i ddau bartner geni ddarparu cefnogaeth barhaus drwy gydol y cyfnod esgor (24 awr). Fe'ch anogir i ddod â'ch lluniaeth eich hun, a bydd mynediad i'r ffreutur a'r siop goffi yn ystod oriau penodol drwy gydol y dydd.
Gofynnwn i bartneriaid geni aros yn gyson a pheidio â chyfnewid yn ystod yr amser hwn er diogelwch eich partner a menywod eraill sy'n derbyn gofal gan ein timau.
Mae croeso i un partner geni fynd gyda'r fenyw neu'r person sy'n rhoi genedigaeth i'r theatr.
Ar ôl yr enedigaeth, gall partneriaid aros am hyd at ddwy awr neu nes eu bod yn cael eu trosglwyddo i'r ward ôl-enedigol, lle bydd oriau ymweld yn berthnasol wedyn.
Mae croeso i un partner geni rhwng 10yb a 10yh.
Croesewir ymweliadau (gan gynnwys brodyr a chwiorydd) yn ystod:
Caniateir uchafswm o ddau ymwelydd i bob gwely ar unrhyw adeg.
Dim ond brodyr a chwiorydd y babi sy'n cael caniatâd; ni fydd plant eraill yn cael ymweld.
Os oes angen cymorth ychwanegol y tu allan i'r oriau hyn, siaradwch â'ch bydwraig gymunedol neu reolwr y ward. Rydym yma i gefnogi eich anghenion unigol.
Mae croeso i ddau bartner geni gefnogi drwy gydol y cyfnod esgor (24 awr). Fe'ch anogir i ddod â'ch lluniaeth eich hun, a bydd mynediad i'r ffreutur a'r siop goffi yn ystod oriau penodol drwy gydol y dydd.
Gall brodyr a chwiorydd ymweld ar ôl y genedigaeth os yw rhieni'n dymuno, ac rydym yn deall y gall aelod o'r teulu fynd gyda nhw.
Er mwyn sicrhau amgylchedd diogel, tawel a heddychlon, ni chaniateir mwy na dau ymwelydd ar y tro.
Er mwyn cadw pawb yn ddiogel:
Diolch am eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad. Ein nod yw gwneud eich profiad mor ddiogel, cyfforddus a chadarnhaol â phosibl. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu amgylchiadau arbennig, mae croeso i chi siarad ag aelod o'n tîm.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.