Diweddarwyd: Awst 2025
Rydym yn cydnabod bod ymweliadau gan berthnasau, gofalwyr a ffrindiau yn rhan bwysig o adferiad claf. Nid yn unig y mae ymweld yn caniatáu i gleifion ailgysylltu â'u hanwyliaid, ond mae llawer o gefnogaeth ymarferol y gall ymwelwyr ei chynnig. Gallant annog cleifion i wisgo, codi a symud o gwmpas a bod mor symudol â phosibl. Gall ymwelwyr hefyd helpu cleifion gyda'u hanghenion hydradu a maeth, trwy eu helpu a'u hannog i fwyta ac yfed.
Gweler ein blwch gwympo Polisi Ymweld isod am fanylion llawn.
11yb i 7yp bob dydd
Gall pob claf gael hyd at ddau ymwelydd fesul ymweliad sy'n gyswllt teuluol neu'n rhywun pwysig i'r claf. Mae amseroedd ymweld yr ysbyty a'r ward wedi'u hysbysebu ar y wefan ac mewn mannau ward. Byddem yn cynghori na ddylai hyd un ymweliad fod yn hirach na dwy awr.
Rydym yn sylweddoli y gallai'r cyfnod hwn fod yn anodd i rai oherwydd amgylchiadau arbennig, h.y. rhieni sengl neu bobl â chyfrifoldebau gofalu. Mewn amgylchiadau o'r fath, siaradwch ag aelod o staff. Gweler y blwch gwympo polisi ymweld isod am ragor o wybodaeth.
Mae trefniadau ymweld pwrpasol ar gyfer wardiau arbenigol:
Anogir rhieni i aros gyda'u plentyn drwy gydol y dydd a gall un rhiant aros dros nos hefyd. Gall brodyr a chwiorydd ac aelodau eraill o'r teulu ymweld rhwng 1yp a 7yp (ni chaniateir i rai dan 16 oed ymweld heb oedolyn yn bresennol.) Cyfyngwch y niferoedd i uchafswm o bedwar ymwelydd ar y tro.
Os ydych chi'n sâl, peidiwch ag ymweld. Gall hyn gynnwys unrhyw symptomau tebyg i annwyd, dolur rhydd a chwydu ac unrhyw frech. Efallai y byddwn yn gofyn i ymwelwyr adael mewn sefyllfa argyfwng neu os bydd yr amgylchedd yn mynd yn rhy llawn straen.
Oriau ymweld: 12.30yp - 3yp a 4.30yp - 7yp. Rhaid trefnu ceisiadau ymweld y tu allan i'r oriau hyn ymlaen llaw gyda'r nyrs sy'n gyfrifol.
Ewch yma i weld tudalen ymweld yr Uned Newyddenedigol.
Ewch yma i weld tudalen ymweld y Gwasanaethau Mamolaeth.
Ewch yma i weld tudalen ymweld Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu.
Noder, ers 1 Mawrth 2021, ei bod hi bellach yn anghyfreithlon ysmygu ar dir ein hysbytai.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.