Tudalen wedi'i chreu: 11.11.22
Ar y tudalennau hyn fe welwch wybodaeth am ein clinigau cleifion allanol a sut i gael cludiant am ddim i gleifion.
Sylwch fod yr adran hon yn cael ei datblygu. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei ychwanegu.
Ewch i'r dudalen hon am y wybodaeth ymweld ddiweddaraf
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gweld tua 30,000 o gleifion allanol bob mis, naill ai mewn apwyntiadau wyneb yn wyneb lle bo’n briodol neu’n rhithiol, drwy ymgynghoriad fideo neu dros y ffôn.
Rydym yn blaenoriaethu cleifion i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu gweld yn y ffordd fwyaf priodol cyn gynted â phosibl.
Mae hyn yn golygu:
Gellir cysylltu â chi dros y ffôn i drefnu apwyntiad neu i dderbyn llythyr yn y post. Efallai y byddwn hefyd yn anfon nodyn atgoffa apwyntiad atoch trwy neges destun.
Tra byddwch chi'n aros
Yn ystod eich amser yn aros am apwyntiad, efallai y byddwn yn cysylltu â chi o bryd i'w gilydd i sicrhau bod angen eich apwyntiad arnoch o hyd ac i wirio bod eich holl fanylion cyswllt yn gyfredol.
Gall hyn fod ar ffurf neges destun neu lythyr. Darllenwch y neges yn ofalus a lle gofynnir i chi ymateb, gwnewch hynny'n brydlon oherwydd, mewn rhai achosion, gallai peidio ag ymateb arwain at eich tynnu oddi ar y rhestr aros.
Gwnewch bob ymdrech i ddod i'ch apwyntiad.
Bob blwyddyn mae tua 60,000 o apwyntiadau cleifion allanol yn cael eu gwastraffu oherwydd nad yw cleifion yn mynychu. Dyna ddigon o bobl i lenwi Stadiwm Abertawe.com (Liberty) deirgwaith drosodd.
Os nad yw eich apwyntiad a neilltuwyd bellach yn addas, mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni, fel y gallwn roi slot eich apwyntiad i glaf arall. Ond cofiwch, gallai canslo eich apwyntiad effeithio ar hyd yr amser y byddwch yn aros. A gallai peidio â mynychu heb roi gwybod i ni ymlaen llaw arwain at eich tynnu oddi ar y rhestr aros. I aildrefnu neu ganslo apwyntiad, dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau ar eich llythyr neu neges destun neu gwelwch y rhifau cyswllt isod:
Rhifau cyswllt cleifion allanol:
Prif adran archebu cleifion allanol – 01792 583700 (8am i 4pm Dydd Llun i Ddydd Gwener) e-bost: sbu.appointmentoffice@wales.nhs.uk
Profion gwaed - 01792 601807
Clinigau gwasanaeth y fron - 01792 200409
CMATS – 01639 862418
Gwasanaeth ymataliaeth – 01792 532424
Rhiwmatoleg - 01639 862104
Ffisioleg glinigol Treforys – 01792 704100
Podiatreg – 0300 3000024
Iechyd rhywiol – 0300 5550279
Awdioleg Singleton – 01792 285270
Ffisiotherapi uniongyrchol Abertawe – 01792 487453
Ymholiadau DSU cleifion mewnol offthalmoleg – 01792 285063
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.