Nid yw cwympo drosodd yn rhan anochel o heneiddio. Ond ydych chi byth yn meddwl neu'n poeni am syrthio? Ydych chi byth yn teimlo'n simsan ar eich traed?
Os ydych chi'n poeni am gwympo, y peth pwysicaf y gallwch chi ei wneud yw siarad â rhywun. Siaradwch â'ch meddygfa a fydd â chysylltiadau â'ch Clinig Cwympiadau lleol neu wasanaethau a all eich helpu.
Gallwn syrthio ar unrhyw oedran ond wrth i ni fynd yn hŷn, rydyn ni'n fwy tebygol o gael ein brifo. Gwiriwch beth allwch chi ei wneud heddiw i leihau eich risg.
Mae’r fideo byr hwn gan y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (ROSPA) yn rhoi arweiniad clir, cam wrth gam ar sut i godi’n ddiogel ar ôl cwympo gartref, gan helpu i leihau anafiadau ac adennill hyder.
Fideo defnyddiol yn dangos ymarferion cryfder a chydbwysedd syml wedi'u cynllunio i helpu i atal codymau a chynnal symudedd. Argymhellir gan ffisiotherapyddion ar gyfer oedolion hŷn.
Ap iStumble: Ap rhad ac am ddim a ddyluniwyd i arwain gofalwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol trwy dechnegau diogel ac effeithiol ar gyfer cynorthwyo rhywun sydd wedi cwympo, gan sicrhau ymateb a chefnogaeth briodol.
Ewch yma i'w lawrlwytho i ddyfais Apple .
Ewch yma i'w lawrlwytho i ddyfais Android .
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.