Sylwch ar y cyfyngiadau canlynol ar gyfer archebu profion gwaed:
Ar gyfer plant dan 12 oed sydd angen prawf gwaed, dylid cysylltu â'r adran bediatrig yn uniongyrchol i wneud apwyntiad. Nid yw'r llinell archebu prawf gwaed yn trefnu apwyntiadau i rai dan 12 oed ac ni ellir archebu'r rhain drwy'r system archebu ar-lein yn unrhyw un o'r safleoedd. Gweler gwybodaeth am brofion gwaed plant yn yr adran Cwestiynau Cyffredin isod.
Rhaid cyflawni'r profion canlynol ar safle penodol:
Quantiferon: Dim ond ar gael yn Singleton, Treforys neu NPTH bore Llun-Iau.
Cryoglobwlinau: Ar gael yn Nhreforys yn unig
Profion gwaed, cyfeirir atynt yn glinigol fel fflebotomi, ystod eang o ddefnyddiau ac maent yn un o'r mathau mwyaf cyffredin o brofion meddygol.
Gellir defnyddio prawf gwaed i asesu eich cyflwr iechyd cyffredinol, gwirio a oes gennych haint, gweld pa mor dda mae rhai organau fel yr afu a'r arennau yn gweithio a sgrinio am rai cyflyrau genetig.
Rhaid bod gennych ffurflen waed i drefnu eich apwyntiad ar gyfer prawf gwaed
Y ffordd gyflymaf a hawsaf o archebu yw trwy ddefnyddio'r ddolen i'r dudalen archebu ar-lein.
Os na allwch archebu ar-lein gallwch ffonio 01792 601807, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, rhwng 9yb a 4yp.
Gwnewch bob ymdrech i fynd i apwyntiadau prawf gwaed wedi'u harchebu. Rydym yn cadw cofnod o apwyntiadau a gollwyd.
Ydych chi dros 16 oed ac ar hyn o bryd yn derbyn, neu ar fin derbyn gofal cleifion allanol yn yr ysbyty?
Cael ystod o ganlyniadau profion gwaed a anfonir yn uniongyrchol at eich ffôn clyfar, gliniadur, tabled neu gyfrifiadur personol eich hun, ynghyd â'ch llythyrau apwyntiad a mwy? Mae Porth Cleifion Bae Abertawe (sy'n cael ei bweru gan Patients Know Best) yn wasanaeth diogel ar-lein sy'n rhoi mynediad i chi i'ch gwybodaeth iechyd, ac mae'n gyfleus - gallwch gael mynediad iddi unrhyw bryd ac yn unrhyw le.
Gallwch hefyd rannu peth neu'r cyfan o'ch gwybodaeth iechyd gydag aelodau o'r teulu, gofalwyr neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sydd angen ei weld.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.