Pan gewch wybod bod gennych ganser, mae'n normal cael amrywiaeth o emosiynau, fel ofn, diffyg teimlad, dicter a thristwch.
Gall y straen a'r gofynion sy'n gysylltiedig â diagnosis o ganser ei gwneud hi'n anodd i chi baratoi'ch hun yn seicolegol ar gyfer triniaeth. Fodd bynnag, gall canolbwyntio ar eich lles emosiynol eich helpu i deimlo'n barod a lleihau teimladau o bryder ac iselder .
Cofiwch ei bod hi'n iawn gofyn am help a chefnogaeth ar unrhyw adeg, sut bynnag y byddwch chi'n teimlo. Peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi aros nes eich bod chi'n cael trafferth, neu nes i chi gael cynnig cefnogaeth. Os ydych chi wedi cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl cyn i chi gael diagnosis, efallai y bydd angen i chi gymryd rhai camau cynnar i amddiffyn eich iechyd meddwl.
Bydd y gefnogaeth emosiynol y gallech fod ei hangen yn wahanol i'r gefnogaeth y mae rhywun arall ei hangen. Mae rhai pobl yn ei chael hi'n ddefnyddiol siarad â phobl, mae rhai'n ceisio rhagor o wybodaeth, tra bod eraill angen cefnogaeth gan ymarferydd seicolegol. Pa bynnag gefnogaeth emosiynol a seicolegol sydd ei hangen arnoch, mae pethau y gallwch chi eu gwneud eich hun i'ch helpu i deimlo'n fwy mewn rheolaeth.
Ewch yma i wylio'r fideo canlynol ar wefan yr Hwb Iechyd am ragor o wybodaeth am lesiant emosiynol
Cymorth a chefnogaeth: Os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch teimladau, siaradwch ag aelod o'ch tîm ysbyty a all eich rhoi mewn cysylltiad â gwasanaethau cymorth ychwanegol.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.