Gallwch ddychwelyd i gael gofal ar unrhyw adeg heb angen atgyfeiriad o’r meddyg teulu (os ydych chi’n byw yng Nghymru ac wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru).
Mae’r llwybr triniaeth hollt yn y DU yn cynnig dull gydol oes - mae gan oedolion sydd â gwefus a/neu daflod hollt yr hawl i ddychwelyd i ofal arbenigol ar unrhyw adeg.
Mae’r tîm sy’n gweithio yng Nghanolfan Cymru ar gyfer Gwefus a Thaflod Hollt yma i chi. Os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â ni:-
Efallai bod gennych bryderon ac yn ystyried triniaeth bellach, yn llawfeddygol neu fel arall- gallai’r rhain gynnwys:
Pryderon ynghylch siâp a golwg y trwyn
Pryderon ynghylch siâp a golwg y gwefusau
Pryderon ynghylch anadlu trwy’ch trwyn
Pryderon ynghylch bwyd neu ddiodydd yn dod i lawr eich trwyn
Pryderon ynghylch aliniad ac/neu ymddangosiad dannedd
Pryderon ynghylch ymddangosiad yr wyneb a sut mae’ch dannedd yn brathu at ei gilydd
Pryderon ynghylch lleferydd
Pryderon ynghylch clyw
Eisiau trafod atgyfeiriad i weld genetegydd i drafod y posibilrwydd o gael plentyn â hollt
Pryderon seicolegol sy’n gysylltiedig â thaith hollt
Os hoffech drafod unrhyw un o’r uchod, neu os oes gennych bryderon eraill yr hoffech siarad â ni amdanynt, cysylltwch â ni a gallwn drefnu apwyntiad i chi.
Y dewisiadau ar gyfer apwyntiadau yw:
Mynychu clinig yn wyneb i wyneb
Byddai hyn yn rhoi cyfle i chi weld cynrychiolydd o’r rhan fwyaf o’r arbenigeddau o fewn y tîm Hollt.
Ymgynghoriad Fideo
Dim ond gyda rhai aelodau o’r tîm y byddai’r opsiwn hwn ar gael. Mae manteision y math hwn o ymgynghoriad yn gyfyngedig, gan na allwn eich archwilio chi. Gallai fod yn ddefnyddiol fel trafodaeth gychwynnol, yn enwedig os ydych chi’n byw y tu allan i Gymru ac yn ansicr beth allai apwyntiad wyneb yn wyneb ei gynnig i chi.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.