Mamau, tadau a gofalwyr – Cofiwch mai eich meddyg teulu yw'r man cyswllt cyntaf i gael help pe bai'ch plentyn yn mynd yn sâl mewn unrhyw ffordd. Gallant gyfeirio eich plentyn at ein gwasanaethau arbenigol os oes angen.
Ewch i'r dudalen hon am gyngor ar gael gofal brys i chi'ch hun neu rywun annwyl.
Ar y dudalen hon fe welwch ddolenni i adrannau sy'n canolbwyntio ar y gwasanaethau arbennig niferus rydyn ni'n eu darparu i blant a phobl ifanc ar draws Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a'r ardaloedd cyfagos.
Mae'r gwasanaethau hyn yn cwmpasu materion o alergeddau, gwlychu gwelyau, anawsterau cyfathrebu, seicoleg iechyd plant i broblemau'r galon, epilepsi, problemau gyda'r cymalau a llawer mwy.
Darperir gwasanaethau yn ein hysbytai ac yn y gymuned.
Gallwch ddarllen am yr hyn y mae pob gwasanaeth yn ei wneud, beth i'w ddisgwyl mewn apwyntiadau, y staff sy'n gweithio yn y gwasanaeth ac, mewn rhai achosion, cael dolenni i gymorth ychwanegol.
Mae ein holl staff yn cydweithio’n agos a hefyd gyda chlinigwyr o Gaerdydd a thu hwnt fel rhan o rwydweithiau arbennig, sy’n ein helpu i ddarparu’r gofal gorau posibl.