Dilynwch y ddolen hon i ddarllen yr adolygiad annibynnol yn llawn, yn ogystal â dogfennau ategol.
Wrth wneud sylwadau, dywedodd Jan Williams, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:
“Mae adroddiad terfynol yr Adolygiad Annibynnol i’n gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol wedi nodi amrywiaeth o fethiannau a phrofiadau sy’n annerbyniol ac yn peri gofid ac rydym yn ymddiheuro’n ddiamod i’r menywod a’u teuluoedd sydd wedi dioddef o ganlyniad. Rydym yn cydnabod y profiadau trawmatig a newidiol y bydd rhai wedi’u profi o ganlyniad i niwed neu golled ac yn cynnig ein cydymdeimlad diffuant.
“Hoffem hefyd ddiolch i’r menywod a’r teuluoedd a gyfrannodd at yr adolygiad er gwaethaf y ffaith y gallai gwneud hynny fod wedi bod yn drawmatig ac yn ofidus iddynt, yn enwedig heddiw wrth i’r Adolygiad Annibynnol gael ei gyhoeddi. Yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth o Drawma Geni – wythnos sydd i gyd yn ymwneud ag annog teuluoedd i ddod ymlaen a rhannu eu profiad. Dyna’n union beth mae’r Adolygiad Annibynnol wedi’i wneud – mae wedi rhoi teuluoedd wrth wraidd ei waith. Daeth llawer o bobl ymlaen a heb eu mewnbwn, ni fyddem mewn sefyllfa i ddysgu gwersi mor bwysig ar gyfer y dyfodol.
“Gynullwyd cyfarfod Arbennig o’r Bwrdd heddiw i dderbyn adroddiad terfynol yr Adolygiad Annibynnol yn ffurfiol ac i glywed yn uniongyrchol gan ei Gadeirydd, Denise Chaffer. Derbyniodd y Bwrdd holl ganfyddiadau ac argymhellion yr Adolygiad Annibynnol yn unfrydol.”
Ychwanegodd Abi Harris, Prif Weithredwr:
“Mae gwelliannau wedi’u gwneud, gan gynnwys o ran lefelau staffio, cydymffurfiaeth â hyfforddiant, diwylliant o adrodd am ddigwyddiadau a staff heb ofni codi pryderon, cyflwyno mecanwaith adborth profiad cleifion newydd ar gyfer Cymru gyfan, datblygu dangosfwrdd digidol i gynorthwyo monitro perfformiad ac ailagor ein gwasanaeth genedigaethau cartref a’n huned dan arweiniad bydwreigiaeth yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.
“Mae’r rhain i gyd wedi’u cydnabod gan yr Adolygiad Annibynnol.
“Ond mae’r ffaith yn parhau nad ydym wedi gwrando ar farn menywod a’u teuluoedd yn gyson ac o ganlyniad, nid ydym wedi darparu’r lefel o ofal a phrofiad y maent yn ei haeddu. Unwaith eto, ymddiheurwn am hynny.
“Gyda hynny mewn golwg, rydw i wedi ei gwneud hi’n glir iawn o fewn y Bwrdd Iechyd heddiw beth yw ein disgwyliadau o’n gilydd o ran safonau tosturi a pharch. Rydw i wedi ei gwneud hi’n glir ein bod ni’n disgwyl i bawb sy’n gweithio yn y Bwrdd Iechyd gynnal y safonau hyn, boed hynny yn ein gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol neu unrhyw le arall o ran hynny.
“Rydym yn gwneud rhai newidiadau ar unwaith o ganlyniad i’r Adolygiad Annibynnol.
“Rydym yn dechrau gweithio ar unwaith ar ddatblygu dull triagio unedig newydd fel yr argymhellwyd yn benodol yn yr Adolygiad Annibynnol. Er y bydd yn cymryd peth amser i ddod yn gwbl weithredol oherwydd anghenion recriwtio a hyfforddi, mae'r gwaith ar y gweill i sicrhau mynediad hawdd a gwasanaeth ymatebol o ansawdd uchel. Bydd y gwasanaeth triagio unedig hwn yn darparu dull llawer mwy cyson, waeth beth fo'r llwybr geni a gynlluniwyd.
“Byddwn yn treulio’r ychydig fisoedd nesaf yn gweithio’n agos gyda menywod a theuluoedd ac yn gwrando arnynt ar ddatblygu dull newydd a hirdymor o ymgysylltu a sut y bydd hyn yn dylanwadu ar newid yn y gwasanaethau a ddarparwn. Byddwn hefyd yn datblygu Cynllun Gwella a fydd yn amlinellu’r hyn y byddwn yn ei wneud yn wahanol i fynd i’r afael â’r methiannau a ddisgrifir yn yr adroddiad a rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru yn dilyn eu hymchwil heddiw ynghylch statws ein gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol.
“Byddwn yn gwrando’n gydwybodol ar yr hyn a ddywedir wrthym ac yn sicrhau bod lleisiau menywod a’u teuluoedd wrth wraidd ein cynlluniau a bod eu barn yn dylanwadu ar yr hyn a wnawn a sut a wnawn.”
Nodyn:
Os oes angen cymorth seicolegol ar unrhyw un o ganlyniad i brofiad gwael o'n gwasanaethau neu o ganlyniad i ganfyddiadau'r Adolygiad Annibynnol, gallant gael mynediad at y cymorth hwn drwy Wasanaethau Cwnsela Tŷ Elis sy'n wasanaeth cyfrinachol, yn annibynnol ar y Bwrdd Iechyd. Eu manylion cyswllt yw 01656 786486 ac OFFICE@TYELIS.ORG.UK
Mae llinell gymorth y Bwrdd Iechyd ar gael hefyd i unrhyw fenywod neu deuluoedd sy'n poeni am eu gofal. Y rhif ffôn yw 01792 986709 ac mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 8.30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae llinell gymorth e-bost hefyd yn cael ei monitro yn ystod yr oriau hyn - BIPBA.YmholiadauMamolaeth@wales.nhs.uk .
Yn ogystal, bydd y fydwraig brysbennu a gyflogir gan yr Adolygiad Annibynnol yn parhau yn y rôl a gall unrhyw ddefnyddwyr gwasanaeth blaenorol gysylltu â hi os hoffai godi pryderon am eu gofal. Y cyfeiriad e-bost yw Chantal.Knight@wales.nhs.uk
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.