Neidio i'r prif gynnwy

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn dathlu ar ôl ennill yng Ngwobrau GIG Cymru 2024.

Y prosiectau buddugol yw:

Gwobr Dysgu ac Ymchwil GIG Cymru

Rhaglen Addysg Lymffoedema Clinigol Ar y Tir ar gyfer Staff Cymunedol

I ddarllen mwy am 'Rhaglen Addysg Lymffoedema Clinigol Ar y Tir ar gyfer Staff Cymunedol' dilynwch y ddolen hon i wefan Gwobrau GIG Cymru.

Gwobr Gofal Amserol GIG Cymru

Gwella amseroldeb o ran defnyddio tiwb Naso-Gastrig ar uned Strôc Acíwt

I ddarllen mwy am 'Gwella amseroldeb o ran defnyddio tiwb Naso-Gastrig ar uned Strôc Acíwt' dilynwch y ddolen hon i wefan Gwobrau GIG Cymru.

Gwobr Dull System Gyfan GIG Cymru

Clwstwr Cwmtawe: Model Iechyd Meddwl a Lles Emosiynol

I ddarllen mwy am 'Clwstwr Cwmtawe: Model Iechyd Meddwl a Lles Emosiynol' dilynwch y ddolen hon i wefan Gwobrau GIG Cymru.

Aeth y prosiect hwn â'r Cyfraniad Eithriadol at Wella Gofal Iechyd adref hefyd.

Cyflwynwyd y gwobrau mewn seremoni yng Nghaerdydd a fynychwyd gan y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol o bob rhan o GIG Cymru.

Dywedodd Judith Paget Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar a Phrif Weithredwr GIG Cymru:

“Llongyfarchiadau i’r enillwyr ond hefyd i bawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr heddiw. Mae Gwobrau GIG Cymru yn un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn. Rwy’n falch iawn o weld ehangder y prosiectau gwella ansawdd ar y gweill ar draws GIG Cymru i drawsnewid ein gwasanaethau ar gyfer y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt. Gobeithio eich bod i gyd yn haeddiannol falch o’ch cyflawniadau yn y cyfnod heriol hwn.”

Mae Gwobrau GIG Cymru yn dathlu gwaith gwella ansawdd sydd wedi trawsnewid y profiad a’r canlyniadau i bobl yng Nghymru ac yn darparu ac yn arddangos y staff iechyd a gofal dawnus yn gweithio gyda’i gilydd i wella gwasanaethau a gofal cleifion ledled Cymru.

I ddarllen mwy am bawb sydd wedi cyrraedd rownd derfynol ac enillwyr eleni, ewch i wefan Gwobrau GIG Cymru.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.