Mae tîm gofal sylfaenol wedi cael ei gydnabod am helpu i wella iechyd a lles ei gymunedau lleol.
Mae staff o Grŵp Cydweithredol Clwstwr Lleol Penderi (LCC) wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau llesiant rhad ac am ddim yn y blynyddoedd diwethaf.
Y nod fu cefnogi ac ysgogi pobl i wella eu hiechyd a'u lles drwy godi ymwybyddiaeth o'r gwahanol adnoddau a gwasanaethau sydd ar gael iddynt yn nes at eu cartrefi.
Mae'r LCC, sy'n cynnwys ardaloedd Fforestfach, Brynhyfryd, Manselton, Gendros, Penlan, Portmead, Ravenhill, Treboeth a Blaenymaes yn Abertawe, wedi helpu i addysgu ac ysbrydoli ei gleifion i fyw bywydau iachach fyth.
Yn y llun: Arweinydd LCC Penderi Dr Sowndarya Shivaraj a rheolwr datblygu busnes a gweithredu LCC Penderi Anna Tippett yn derbyn eu gwobr gan Gyfarwyddwr Dros Dro Gweithlu a Datblygiad Sefydliadol y bwrdd iechyd, Sarah Jenkins.
Mae pob digwyddiad wedi dod ag ystod o grwpiau cymunedol, sefydliadau ac arbenigwyr gofal iechyd ynghyd i rannu gwybodaeth gyda'r cyhoedd.
Maent wedi cynnwys sefydliadau fel Canolfan Gofalwyr Abertawe a Barnardo’s, yn ogystal â thimau byrddau iechyd gan gynnwys y gwasanaeth deieteg, Helpa Fi i Stopio a’r gwasanaeth imiwneiddio.
Nawr, mae ymrwymiad yr LCC i wella iechyd a lles ei gleifion wedi'i gydnabod a'i ganmol yn fawr yng Ngwobrau Staff Un Bae Ar y Cyd y bwrdd iechyd, ar ôl cyrraedd y rhestr fer yn y categori Gweithio Gyda'n Gilydd.
Dywedodd Dr Sowndarya Shivaraj, Meddyg Teulu yng Nghanolfan Feddygol Fforestfach ac arweinydd LCC Penderi: “Fe wnaethon ni lunio'r strategaeth hon i helpu i wella llythrennedd iechyd ein cymuned.
“Mae llythrennedd iechyd gwael yn gysylltiedig â mwy o dderbyniadau ac aildderbyniadau i’r ysbyty, llai o gyfranogiad mewn gweithgareddau ataliol, hunanreolaeth waeth o gyflyrau cronig a chanlyniadau afiechyd gwaeth.
“Rydym eisiau grymuso pobl i reoli eu hiechyd a’u lles cyffredinol yn rhagweithiol, a fydd yn helpu i wella iechyd y boblogaeth.
“Mae grwpiau cymunedol, gwasanaethau a thimau byrddau iechyd wedi mynychu’r digwyddiadau i roi cyngor a chymorth wyneb yn wyneb i’n cleifion.
“Mae’r lleoliad hamddenol a chyfeillgar wedi helpu i hwyluso sgyrsiau rhwng y cyhoedd a’r gweithwyr proffesiynol gwybodus.”
Nid yn unig y mae'r digwyddiadau'n cynnig cyfle i'r cyhoedd gael gwybodaeth, ond maent hefyd yn gyfle i'r LCC siarad yn uniongyrchol â chleifion i ganfod pa gymorth y maent ei eisiau neu ei angen.
“Mae casglu adborth ym mhob un o’r digwyddiadau wedi bod yn ddefnyddiol iawn,” ychwanegodd Sowndarya.
“Mae’r digwyddiadau’n rhoi cyfle i ni siarad â’n cleifion a dysgu am yr hyn maen nhw ei eisiau gennym ni hefyd.
“Gall ein helpu i ddeall y rhwystrau sy’n atal pobl rhag cael mynediad at gymorth a all eu helpu i fyw bywyd iachach.
“Mae’r rhai sydd wedi mynychu’r digwyddiadau wedi’i chael yn ddefnyddiol i ddysgu am yr hyn sydd ar gael iddynt o fewn cymuned Penderi.”
Mae'r LCC hyd yn oed wedi cynnal digwyddiad yn Ysgol Gynradd Cadle i addysgu disgyblion am bwysigrwydd eu hiechyd a'u lles.
Mae disgwyl i ragor o ddigwyddiadau gael eu cynnal ar draws y gymuned dros y misoedd nesaf.
Arweiniodd ymrwymiad y clwstwr i weithio gyda sefydliadau a gwasanaethau partner i helpu i addysgu ac ysbrydoli’r cyhoedd i fyw bywydau iachach at gydnabyddiaeth yng Ngwobrau Staff Un Bae Ar y Cyd y bwrdd iechyd.
Mae'r gwobrau'n cydnabod y llu o brosiectau gwych, syniadau, datblygiadau arweinyddiaeth a gwelliannau i ofal cleifion dros y 12 mis diwethaf, gyda LCC Penderi yn cael canmoliaeth uchel yn y categori Gweithio Gyda'n Gilydd.
Dywedodd Sowndarya: “Mae wedi bod yn anrhydedd cael ein henwebu a’n canmol yn fawr am ein gwaith yn LCC Penderi.
“Mae’r gydnabyddiaeth wedi ysbrydoli ein tîm i ymdrechu i gyflawni hyd yn oed mwy o gyflawniadau yn y blynyddoedd i ddod a pharhau i wella ansawdd y gofal a ddarparwn i’n cleifion.
“Mae clywed am ymdrechion rhyfeddol timau eraill a gafodd ganmoliaeth uchel mewn meysydd amrywiol o ofal cleifion wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig ac rydym wedi cael mewnwelediadau gwerthfawr o’u gwaith rhagorol.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.