Gan ddiolch i gydweithio a gwaith caled staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, cydweithwyr gofal sylfaenol a sefydliadau partner, mae Ysbyty Treforys wedi'i isgyfeirio o fod yn Ddigwyddiad Parhad Busnes Lefel 5 i Lefel 4 (pwysau eithriadol), a ddaw hyn i rym heddiw, 30 Tachwedd 2023.
Ymddiheurwn yn ddiffuant i'r cleifion a'u teuluoedd a wynebodd amseroedd aros hir yn ystod y cyfnod hwn o bwysau aruthrol, ac rydym yn diolch iddynt am eu hamynedd a'u dealltwriaeth.
Mae'r ymdrechion, dyfalbarhad a dyfeisgarwch a ddangoswyd gan bawb i fynd i'r afael â'r heriau hyn wedi bod yn rhagorol, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt.
Fodd bynnag, er bod y sefyllfa wedi gwella, mae pwysau ar ein gwasanaethau gofal heb ei drefnu a gofal brys yn parhau'n uchel. Felly mae'n hanfodol bod yr holl ymdrechion i gefnogi llif cleifion yn cael eu cynnal.
Oherwydd y tywydd oer a ragwelir, rydym yn disgwyl i fod yn brysur iawn gan fod y gostyngiad mewn tymherydd o ganlyniad i'r tymor yn gallu achosi mwy o salwch.
Hefyd, hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i aelodau'r cyhoedd a ymatebodd i'n hapêl i beidio â dod i'r Adran Achosion Brys oni bai eu bod yn sâl iawn neu wedi'u hanafu'n ddifrifol. Wrth i bwysau barhau'n uchel, mae'n hollbwysig eu bod nhw'n ystyried dewisiadau eraill i'r Adran Achosion Brys.
Ar gyfer mân anafiadau, ewch i'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot. Ewch yma am fwy o wybodaeth am yr Uned Mân Anafiadau a'r amrywiaeth o anafiadau y gellir eu trin yno.
Noder NA ALL yr Uned Mân Anafiadau drin anafiadau neu salwch difrifol.
Gallwch chi hefyd fynd yma i droi at wiriwr symptomau ar-lein 111 GIG Cymru am gyngor.
Hefyd gallwch ffonio 111 GIG Cymru am gyngor, ond gall y llinellau ffôn fod yn brysur, felly os yw hi'n bosibl ewch i'r wefan uchod fel man cychwyn cyn ffonio.
Gall eich fferyllfa leol gynnig triniaethau dros y cownter AM DDIM ar gyfer ystod eang o salwch cyffredin, unwaith i chi gofrestru. Gall y fferyllfa gynnig nifer gyfyngedig o feddyginiaethau presgripsiwn heb fod angen i chi fynd at eich meddyg teulu. Ewch yma i gael rhagor o wybodaeth am sut gall eich fferyllydd helpu.
Os oes angen cymorth iechyd meddwl arnoch, gallwch ffonio 111 a dewis Opsiwn 2 i siarad â thîm o ymarferwyr iechyd meddwl.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.