Neidio i'r prif gynnwy

Staff Bae Abertawe wedi'u henwi yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin

Mae dau aelod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA) wedi'u henwi ar restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin.

Mae'r llawfeddyg plastig, yr Athro Iain Whitaker, a'r nyrs lymffoedema, Karen Morgan, wedi derbyn Urdd Mwyaf Rhagorol yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) a Medal Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) yn y drefn honno.

Mae'r Athro Iain Whitaker yn llawfeddyg plastig ymgynghorol anrhydeddus yng Nghanolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru yn Ysbyty Treforys.

Karen Morgan yw Arweinydd Addysg ac Ymchwil Lymffoedema Cenedlaethol yn Lymffoedema Cymru, wedi'i lleoli yn Ysbyty Cimla.

Mae rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin yn cydnabod cyflawniadau a gwasanaeth pobl ledled y DU, o bob cefndir.

Penodwyd yr Athro Whitaker, sydd hefyd yn dal Cadair Llawfeddygaeth Blastig yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, yn OBE i gydnabod ei wasanaethau i lawfeddygaeth blastig (clinigol, ymchwil a hyfforddiant).

Dywedodd: “Mae’n anrhydedd fawr i mi dderbyn y wobr hon ac rwy’n ddiolchgar am y gydnabyddiaeth am fwy nag 20 mlynedd o waith o fewn arbenigedd llawfeddygaeth blastig.

“Hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn rhan o’m henwebiad a chydnabod bod hyn hefyd yn adlewyrchiad o gyflawniadau a chyfraniadau’r sefydliadau, y cymunedau a’r unigolion rwy’n gweithio gyda nhw.

  “Fy nod fu gweithio’n ddiflino i ymchwilio i ffyrdd o wella gofal cleifion, wrth adeiladu tîm amlddisgyblaethol ac ysbrydoli’r llawfeddygon mwyaf disglair a gorau sydd mewn hyfforddiant i ddod i Gymru a chodi proffil y genedl.”

  Dyfarnwyd yr anrhydedd i Karen Morgan am ei gwasanaethau i ofal lymffoedema.

  Dywedodd: “Roeddwn i a dw i dal yn synnu ac yn emosiynol iawn o dderbyn yr hysbysiad am y wobr fawreddog hon.

" Rydw i wedi gweithio o fewn BIPBA ers i mi gymhwyso fel nyrs gyntaf ym 1989 ac fel y gwyddoch chi, mae'r Tîm Lymffoedema Cenedlaethol yn cael ei gynnal gan y bwrdd iechyd.

“Rwy’n falch iawn o’r bwrdd iechyd felly mae codi ei broffil a phroffil Rhwydwaith Clinigol Lymffodema Cymru (LWCN) yn anhygoel.”

Llongyfarchodd Prif Swyddog Gweithredol Bae Abertawe, Abigail Harris, y ddau.

Dywedodd: “Hoffwn longyfarch yr Athro Whitaker a Karen Morgan am eu cynnwys yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin eleni.

  “Mae’r ddau wedi cael eu cydnabod am ragoriaeth yn eu meysydd dewisol ac yn cydnabod yn ostyngedig gefnogaeth eu cydweithwyr wrth gyflawni cydnabyddiaeth mor frenhinol.

  “Mae bob amser yn bleser gweld clinigwyr talentog ac ymroddedig yn gallu ffynnu yma ym Mae Abertawe gan ei fod nid yn unig yn cynnig anogaeth i eraill ond yn tawelu meddyliau ein cleifion eu bod nhw yn y dwylo gorau.”

Ychwanegodd Cadeirydd y bwrdd iechyd, Jan Williams: “Hoffwn ychwanegu fy llongyfarchiadau cynhesaf i Karen ac Iain am eu hanrhydeddau haeddiannol iawn.

“Mae bob amser yn llawenydd gweld ymdrechion ein staff yn cael eu cydnabod ar lefel genedlaethol.

“Mae’n arbennig o braf eu gweld yn cydnabod cyfraniad eu cydweithwyr gan ein bod ni i gyd yn gwybod ein bod ni ym Mae Abertawe wedi ein bendithio i gael gweithlu mor weithgar ac ymroddedig.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.