YN Y LLUN: Staff o'r tîm ystadau yn Ysbyty Treforys.
Mae prosiect Bae Abertawe sydd â lles a bywyd gwyllt wrth ei wreiddiau wedi dod o hyd i gydnabyddiaeth genedlaethol.
Roedd adran ystadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn un o bedwar enillydd yn adran GIG y Gwobrau Partneriaeth Cynaliadwyedd.
Yn sgil eu gwaith yn cyflwyno Prosiect Cymru Bioffilig ochr yn ochr â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Prifysgol Abertawe a Chyfoeth Naturiol Cymru, enillodd y gwobr Partneriaeth.
Mae’r prosiect yn darparu buddion niferus gan gynnwys lles cleifion, staff a gwirfoddolwyr, ynghyd â hybu’r amgylchedd a bywyd gwyllt.
YN Y LLUN: Roedd Howard Stevens, Rheolwr Gwasanaethau Technegol Ystadau a Mark Humphreys, Swyddog Gwasanaethau Technegol Cynorthwyol, yn hollbwysig i lwyddiant gwobrau’r adran.
Nododd y tîm ystadau safleoedd byrddau iechyd a allai elwa o ddatblygu mannau gwyrdd, gyda dim ond rhai o’r uchafbwyntiau’n gweld staff a gwirfoddolwyr yn plannu 4,000 o goed a llwyni; sefydlu 36 o safleoedd gyda pheillwyr yn plannu a hongian 16 o focsys adar ac ystlumod a gwestai chwilod ar draws 16 lleoliad.
Gwelodd y prosiect adeiladu dau do gwyrdd yn ysbytai Treforys a Gorseinon, tra bod y safleoedd hynny wedi elwa o ailddatblygu cyrtiau yn erddi tawel. Hefyd sefydlwyd tri gwely cyrs arnofiol ym mhencadlys y bwrdd iechyd ym Maglan.
Gydag agwedd arloesol tuag at natur gwelwyd bywyd gwyllt yn cael ei ddanfon yn ddigidol i wardiau yn Ysbyty Cefn Coed a Hosbis Tŷ Olwen diolch i gyswllt byw gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â Bywyd Gwyllt Tadorna.
At ei gilydd, cafodd y prosiect fudd o 10,915 awr o gyfranogiad gwirfoddol.
Dywedodd Howard Stevens, Rheolwr Gwasanaethau Technegol Ystadau: “Mae ennill y wobr yn gydnabyddiaeth wych o waith caled ac ymroddiad yr holl sefydliadau, staff a gwirfoddolwyr sy’n ymwneud â’r prosiect ysbrydoledig hwn.
“Gall bod yn gysylltiedig â byd natur helpu i roi hwb i iechyd meddwl person, a chofnodwyd hynny yn ein canfyddiadau.
YN Y LLUN: Mae’r wobr wedi tynnu sylw at y gwaith rhwng y bwrdd iechyd, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Prifysgol Abertawe a Chyfoeth Naturiol Cymru.
“Mae lles ein staff, cleifion a gwirfoddolwyr yn anhygoel o bwysig, ac rydym wedi gallu effeithio ar hynny trwy gynyddu bioamrywiaeth a gwella ardaloedd gwyrdd amrywiol o fewn ein safleoedd ar yr un pryd. Rydym wedi cefnogi lliniaru ac addasu newid hinsawdd trwy ddulliau ecosystem a lleihau llygredd sŵn a lefelau llygredd yn ein haer a gwella ansawdd aer trwy blannu coed.
“Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant gwirioneddol, ac mae’r wobr hon yn amlygu hynny’n wirioneddol.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.