Mae'r gwirfoddolwraig ysbyty Juddie Hare yn gwybod pa mor bwysig yw cael eich amddiffyn rhag y ffliw, ar ôl cael ei syfrdanu ganddo'r unig dro mewn 35 mlynedd iddi fethu cael ei brechu.
Mae Juddie, sy'n helpu yn y clinigau awdioleg a fflebotomi yn ysbytai Treforys a Singleton, wedi rhannu ei stori i annog pobl i amddiffyn eu hunain y gaeaf hwn trwy gael eu brechu.
Dywedodd y fenyw 52 oed o Abertawe: “Rydw i wedi bod yn cael brechiadau ffliw ers 1990.
“Mae gen i asthma a dwi'n ddiabetig, felly dw i’n gwybod, os na fydda i’n amddiffyn fy hun ac yn dal y ffliw, y bydd yn fy nharo’n galed.
“Mae’n bwysig i mi gael fy mrechlyn ffliw cyn gynted â phosibl, nid yn unig i’m cadw’n iach, ond i amddiffyn y cleifion a allai ddod i un o’r clinigau rwy’n gweithio ynddynt.”
Mae Juddie yn credu ei bod wedi dal math arbennig o annymunol o'r firws o'r enw Ffliw Beijing, a oedd yn cylchredeg ddechrau'r 1990au.
Dywedodd: “Rwy’n credu ei bod hi’n 1993, ac roeddwn i’n sâl iawn gyda hynny. Roedd gen i lawer o steroidau, llawer o anadlyddion, ac roedd gen i lawer o nebiwlyddion hefyd.
“Roeddwn i’n anlwcus. Doeddwn i ddim yn teimlo’n dda ac felly allwn i ddim cael y brechlyn, yr oeddwn i fod i’w gael ddau ddiwrnod yn ddiweddarach. Pe bai wedi bod ychydig ddyddiau ynghynt, efallai y byddai wedi fy atal rhag bod mor sâl. Yn ffodus, llwyddais i oroesi.”
Mae gan Juddie broblemau iechyd sylfaenol eraill y gall y ffliw eu gwaethygu. Ac, ar ôl ei brofi unwaith, mae hi'n awyddus i osgoi ei gael eto.
Dywedodd: “Mae llawer o bobl yn dweud 'Mae gen i'r ffliw' ond dw i'n gwybod sut beth yw ffliw go iawn. Mae pobl yn dweud, 'Mae gen i ffliw, roeddwn i yn y gwely am ddau ddiwrnod'. Na, os cewch chi ffliw, gallwch chi fod yn sâl am sawl mis yn ceisio dod drosto.
“Byddwn i’n dweud wrth unrhyw un, boed ganddyn nhw asthma, fel fi, neu unrhyw gyflwr sylfaenol, ei bod hi’n bwysig cael y brechlyn – er eich iechyd eich hun, i ofalu amdanoch chi, ac i ofalu am y genhedlaeth hŷn yn eich teulu, fel y gallant gael eu cadw’n ddiogel hefyd.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Iechyd y Cyhoedd Bae Abertawe, Dr Gillian Richardson: “Er bod llawer yn credu bod y ffliw yn haint diniwed, sydd â chyfyngiad amser, gall fod yn fygythiad i fywyd rhai unigolion, yn enwedig os oes cyflyrau cronig neu systemau imiwnedd gwael oherwydd clefyd neu driniaethau.
“Gall hefyd arwain at broblemau tymor hwy fel blinder ôl-feirysol.
“Byddwn yn annog yn fawr unrhyw un sy’n gymwys i gael brechlyn ffliw yr hydref hwn i gymryd eu brechlyn, sydd wedi’i brynu ar eu cyfer i leihau’r risgiau hyn yn bersonol.
“Nid yw brechlyn y llynedd yn amddiffyn rhag math ffliw eleni – mae'r firws a'r brechlyn yn newid bob blwyddyn. Felly peidiwch â mynd yn sâl, byddwch yn glyfar a chymerwch eich brechlyn ffliw. Gadewch i ni gadw un cam ar y blaen i'r firws ffliw!”
Am ragor o wybodaeth am ymgyrch brechu ffliw eleni, dilynwch y ddolen hon.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.