YN Y LLUN: Dan Edwards a Reuben Morgan-Williams gydag Enid Bamsey yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot.
Mae'r Gweilch wedi ymweld â thri ysbyty ym Mae Abertawe er mwyn sgwrsio â chleifion a dosbarthu anrhegion Nadolig cynnar.
Ymunodd Keelan Giles â chyn flaenasgellwr Cymru a'r Llewod, Justin Tipuric, wrth iddyn nhw dreulio amser yn adran arennol Ysbyty Treforys.
Aeth Dan Edwards a Reuben Morgan-Williams ar ymweliad arbennig i weld cleifion niwro-adsefydlu a Ward D yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, tra aeth Morgan Morris a Will Griffiths i'r adran Radiotherapi yng Nghanolfan Ganser y De Orllewin yn Singleton.
Bu'r chwaraewyr yn sgwrsio â chleifion ac yn tynnu lluniau, yn ogystal â throsglwyddo rhywfaint o nwyddau'r Gweilch a lluniau wedi'u llofnodi gan y garfan.
Dywedodd Reuben, sy’n chwarae’r mewnwr i dîm dan 20 y Gweilch a Chymru: “Fe wnaethon ni fwynhau cwrdd â’r cleifion a’r staff yn fawr a threulio peth amser yn siarad â nhw.
YN Y LLUN: Justin Tipuric a Keelan Giles yn sefyll am ffotograff gyda staff Ysbyty Singleton.
“Nid yw’n hawdd bod yn yr ysbyty yr adeg hon o’r flwyddyn, felly mae’n rhywbeth rydym yn awyddus iawn i’w wneud ac mae’n ddigwyddiad pwysig yn ein calendr oherwydd mae’r gymuned yn golygu llawer i ni.
“Gobeithio ein bod wedi llwyddo i roi gwên ar wynebau cleifion a chymryd eu meddyliau oddi ar fod yn yr ysbyty. Fe gawson ni hwyl yn dosbarthu’r nwyddau am ddim a dwi’n meddwl ein bod ni wedi llwyddo i drosi ychydig o bobl y gwnaethon ni gwrdd â nhw yn gefnogwyr y Gweilch!”
Dywedodd Lewis Bradley, Rheolwr Cymorth Elusennol Bwrdd Iechyd Bae Abertawe: “Ni allwn ddiolch digon i’r Gweilch am ymweld â phob un o’n tri ysbyty.
“Fe ddaeth â gwên i gleifion a’n staff ar draws yr adrannau.
“Mae’r Nadolig yn amser ar gyfer hwyl yr ŵyl, ond mae’n rhaid i ni gofio bod yna gleifion a fydd yn yr ysbyty a allai golli allan felly mae’r ymweliadau’n helpu eu hiechyd meddwl a’u lles yn fawr.”
Please select a gallery
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.