Mae rhoi'r gorau i ysmygu yn cael ei gydnabod yn eang fel cam mawr i'r cyfeiriad cywir i wella iechyd a lles cyffredinol.
Ond i bobl sy'n byw gyda chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD), mae'n un o'r pethau pwysicaf y gallant ei wneud i helpu i wella eu hiechyd.
Yn ystod mis Tachwedd, Mis Ymwybyddiaeth COPD, rydym yn tynnu sylw at y gwasanaethau, y canllawiau hunanreoli a'r gefnogaeth sydd ar gael i gleifion Bae Abertawe.
COPD yw'r enw ar grŵp o gyflyrau ysgyfaint sy'n achosi anawsterau anadlu.
Mae'n cynnwys emffysema (difrod i'r sachau aer yn yr ysgyfaint) a broncitis cronig (llid hirdymor yn y llwybrau anadlu) ac mae'n gyflwr cyffredin sy'n effeithio'n bennaf ar oedolion canol oed neu hŷn sy'n ysmygu.
Yn y llun: Joanne Williams a Lowri Ridings, ymarferwyr rhoi'r gorau i ysmygu, a Susan O'Rourke, rheolwr datblygu gwasanaethau ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu.
Mae'r difrod i'r ysgyfaint a achosir gan COPD yn barhaol, ond gall triniaeth helpu i arafu datblygiad y cyflwr, gyda rhoi'r gorau i ysmygu yn cael ei ystyried fel y peth pwysicaf i'w wneud.
Dywedodd Susan O'Rourke, rheolwr datblygu gwasanaethau Bae Abertawe ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu: “Mae rhoi'r gorau i ysmygu yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal clefydau anadlol, ac yn un o'r triniaethau mwyaf effeithiol i bobl sydd wedi cael diagnosis.
“Ar hyn o bryd nid oes iachâd ar gyfer COPD, ond gall triniaeth helpu i arafu datblygiad y cyflwr a rheoli’r symptomau.
“I bobl â COPD sy’n dal i ysmygu, rhoi’r gorau i ysmygu yw’r peth pwysicaf i’w wneud.
“Er na ellir gwrthdroi unrhyw ddifrod a wneir i’ch ysgyfaint a’ch llwybrau anadlu, gall rhoi’r gorau i ysmygu helpu i atal difrod pellach.
“Efallai mai dyma’r holl driniaeth sydd ei hangen yng nghyfnodau cynnar COPD, ond nid yw byth yn rhy hwyr i roi’r gorau iddi. Bydd hyd yn oed pobl â COPD mwy datblygedig yn elwa o roi’r gorau iddi.”
Mae'r gwasanaeth Helpa Fi i Stopio yn cynnig 12 wythnos o gefnogaeth ymddygiadol ac emosiynol am ddim trwy gyfarfodydd unigol neu grŵp.
Mae staff yn darparu cefnogaeth drwy sesiynau wythnosol, naill ai dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu’n rhithiol, lle mae trafodaethau’n cynnwys pam mae cyfranogwyr yn ysmygu, newidiadau ymddygiad a straen.
Mae'r gwasanaeth hefyd yn darparu meddyginiaeth rhoi'r gorau i ysmygu am 12 wythnos, fel clytiau nicotin, i helpu i leihau symptomau diddyfnu.
“Drwy beidio ag ysmygu neu leihau ysmygu, mae’n helpu i glirio’r ysgyfaint a gwneud anadlu’n haws i bobl â COPD,” ychwanegodd Susan.
“Mae’n helpu i wella ansawdd bywyd pobl sy’n byw gyda’r cyflwr cronig hwn.
“Fyddwn ni ddim yn gallu cael gwared ar y COPD ond rydyn ni’n gallu helpu gyda’u hansawdd bywyd gan fod rhoi’r gorau iddi yn helpu i wella eu hanadlu, y ffordd maen nhw’n teimlo a’r gweithgareddau y gallant eu gwneud.
“Rydym wedi cael rhai cleifion a oedd ar wasanaethau ocsigen cartref a lwyddodd i leihau neu hyd yn oed roi’r gorau i’w angen yn llwyr ar ôl iddynt roi’r gorau i ysmygu.
“Lle bynnag y mae claf yn ei daith gyda COPD, rhoi’r gorau i ysmygu yw’r prif fudd iechyd i’w cyflwr ac ansawdd bywyd.
“Mae rhoi’r gorau i ysmygu ar unrhyw gam o COPD yn eich helpu i fyw’n hirach.”
I gael mynediad at y gwasanaeth Helpa Fi i Stopio, gallwch gysylltu â 0800 085 2219 neu anfon neges destun 'HMQ' i 80818.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.