Neidio i'r prif gynnwy

Mae rhaglen hyfforddi yn helpu i uwchsgilio staff gofal sylfaenol ar iechyd menywod

Rhian a Jess yn sefyll wrth ochr sgrîn deledu

Mae staff gofal sylfaenol ym Mae Abertawe yn gwella eu sgiliau drwy ddysgu mwy am amrywiaeth o bynciau sy'n gysylltiedig ag iechyd menywod.

Mae Academi Gofal Sylfaenol a Chymunedol y bwrdd iechyd yn cefnogi staff gofal sylfaenol i gael mynediad at gyfleoedd addysg a hyfforddiant a all eu helpu i uwchsgilio.

Nod yr Academi yw helpu i ddatblygu'r gweithlu gofal sylfaenol a, thrwy wneud hynny, gobeithir y bydd staff yn gallu darparu ystod ehangach o wasanaethau ac ymyriadau yn y gymuned.

Yn y llun: Rhian Jones, rheolwr yr Academi, a Jessica Beer, swyddog datblygu addysg a hyfforddiant gofal sylfaenol a chymunedol yn yr Academi.

Yn ddiweddar, mae staff wedi mynychu amryw o sesiynau hyfforddi i ddysgu mwy am bynciau gan gynnwys y menopos, atal cenhedlu ac endometriosis, gyda mwy wedi'u cynllunio yn y misoedd nesaf.

Mae rhai o'r sesiynau wedi cael eu harwain a'u cefnogi gan obstetryddion a gynaecolegwyr sydd wedi'u lleoli yn ysbytai Bae Abertawe.

Gobeithir y bydd gwella sgiliau staff yn helpu cleifion i dderbyn gofal priodol ac amserol, tra hefyd yn lleihau atgyfeiriadau diangen i'r ysbyty.

Mae'r hyfforddiant yn dilyn cyflwyno Cynllun Iechyd Menywod Llywodraeth Cymru, gweledigaeth 10 mlynedd i wella gwasanaethau gofal iechyd i fenywod.

Aelodau o

Dywedodd Rachel Brace, arweinydd clinigol Academi Gofal Sylfaenol a Chymunedol y bwrdd iechyd: “Cawsom gyllid i ddarparu rhaglenni hyfforddi ar gyfer staff gofal sylfaenol.

“Mae’r rhaglen yn darparu cymysgedd o ddysgu achrededig, digwyddiadau wyneb yn wyneb, e-ddysgu, cyrsiau ar-lein, a mwy.

“Rydym wedi gallu trafod llawer o bynciau gan gynnwys gwella gwasanaethau mewn gofal sylfaenol, gosod coiliau ac mewnblaniadau atal cenhedlu, rheoli’r menopos, libido yn ystod y perimenopos ac endometriosis, ymhlith pethau eraill.

“Rydym wedi defnyddio adborth o rai o’n sesiynau cynharach i helpu i lunio rhai o’n sesiynau sydd ar ddod hefyd, sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn.”

Mae gweithio gyda chydweithwyr yn yr ysbyty i gyflwyno rhywfaint o'r hyfforddiant wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o lwybrau atgyfeirio a gwasanaethau sydd ar gael i helpu i gefnogi cleifion.

Mae Dr Manju Nair, obstetrydd a gynaecolegydd ymgynghorol ac arbenigwr menopos ym Mae Abertawe, wedi bod yn cefnogi'r Academi i drefnu'r sesiynau hyfforddi hyn.

“Mae’r sesiynau’n seiliedig ar y meysydd blaenoriaeth allweddol a nodwyd yng Nghynllun Iechyd Menywod,” meddai hi.

“Yn aml, gofal sylfaenol yw’r pwynt cyswllt cyntaf i fenywod, felly mae rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i glinigwyr yn hanfodol ar gyfer adnabod cyflyrau iechyd menywod yn gynnar, atgyfeirio’n amserol, a rheoli’n gyson.

“Mae’r sesiynau hyn hefyd yn darparu canllawiau ymarferol ar lwybrau atgyfeirio, gwasanaethau sydd ar gael, a lle ar gyfer deialog agored, gan ganiatáu i gydweithwyr gofal sylfaenol ac eilaidd rannu profiadau ac ymdrin â heriau.

“Rydym yn gobeithio y bydd y sesiynau hyn, ar y cyd â llwybrau cliriach, yn y pen draw yn arwain at brofiadau a chanlyniadau gwell i gleifion ar draws Bae Abertawe.”

Ychwanegodd Rachel: “Rydym wedi llwyddo i lunio rhaglen fawr o hyfforddiant ac addysg.

“Rydym am helpu i uwchsgilio staff gofal sylfaenol yn y maes hwn, a gobeithio y bydd yn dod â manteision fel gofal gwell a lleihau atgyfeiriadau diangen neu amhriodol hefyd.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.