Neidio i'r prif gynnwy

Mae mynd yn ddigidol yn arbed amser staff a phapur ac yn gwella lles staff

YN Y LLUN: Staff o'r Gwasanaeth Anabledd Dysgu Therapi Galwedigaethol.

Mae gwasanaeth ym Mae Abertawe wedi cynyddu lles staff, arbed amser staff a lleihau ei ddefnydd o bapur drwy fynd yn ddigidol gyda'i ddyletswyddau cadw cofnodion clinigol.

Mae'r Gwasanaeth Anabledd Dysgu Therapi Galwedigaethol (OT), a gynhelir gan Fae Abertawe ond sydd hefyd yn gweithio ar draws byrddau iechyd Cwm Taf Morganwg a Chaerdydd a'r Fro, yn cefnogi pobl sydd ag anabledd dysgu ac angen iechyd.

Mae'r tîm bellach yn storio gwybodaeth cleifion ar systemau digidol mewnol diogel, yn dilyn prosiect blwyddyn o hyd a nododd fod y newid wedi arbed 1,092 awr o amser staff bob blwyddyn – sy'n cyfateb i dros £28,200 mewn cyflogau – ac wedi hybu lles ei staff.

Mae hefyd wedi atal 5,200 o argraffiadau dros gyfnod o flwyddyn, gan arbed o £50 y flwyddyn.

Mae Rachel Thomas, Arweinydd Therapi Galwedigaethol, a Sophie Reynolds, hyrwyddwr cynaliadwyedd a Thechnegydd Therapi Galwedigaethol, wedi bod yn arwain y prosiect.

Dywedodd Rachel: “Mae’n arfer hirhoedlog o fewn y gwasanaeth bod staff Therapi Galwedigaethol yn teipio eu nodiadau’n electronig ac yn eu cadw mewn ffeil a rennir gan y tîm. Yna byddent yn argraffu’r copi a’i roi mewn ffolder papur penodol i’r proffesiwn.

“Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o weithio mewn dull mwy darbodus sy’n sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaeth gorau i’n cleientiaid. Amlygodd ein canfyddiadau fod staff yn treulio tua awr yr wythnos yn argraffu a storio nodiadau mewn ffeiliau papur.

“Rydym wedi torri’r rhan honno o’r broses allan, ac mae ein staff wedi dweud eu bod yn hapusach yn gwneud hyn gan ei fod yn rhoi mwy o amser iddynt ddarparu mewnbwn Therapi Galwedigaethol arbenigol. Mae hefyd yn arbed amser staff rhag teithio i ganolfan i argraffu’r nodiadau, tra bod ganddo fanteision amgylcheddol hefyd gan ein bod wedi lleihau ein defnydd o bapur yn sylweddol.

“Mae lles staff wrth wraidd ein gwasanaeth ac rydym wrth ein bodd bod staff wedi nodi boddhad uchel gyda’r dull newydd hwn. Mae’n darparu dull mwy cadarn o storio cofnodion a storio gwybodaeth bwysig sy’n lleihau risg ac yn cynyddu ansawdd rhannu gwybodaeth.”

Mae canlyniadau cadarnhaol y prosiect hefyd wedi cael eu nodi gan staff eraill o fewn y gwasanaeth Anableddau Dysgu (AD).

Dywedodd Sophie Reynolds, hyrwyddwr cynaliadwyedd a Thechnegydd Therapi Galwedigaethol: “Rydym yn angerddol iawn am rôl y gwasanaeth wrth rymuso cleientiaid, gofalwyr a staff er mwyn cael y budd mwyaf i’r cleientiaid rydym yn gweithio gyda nhw, ac rydym hefyd yn angerddol am lesiant ein staff a’r penderfyniadau cynaliadwy a wnawn.

“Rydym yn falch iawn o’r datblygiad hwn, ac mae wedi’i ymgorffori’n dda yn ein gwasanaeth nawr ynghyd â staff therapïau eraill o fewn AD fel ffisiotherapi, ac rydym yn obeithiol y gellir ei gyflwyno ymhellach.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.