Mae platiau gwag yn profi bod dau ysbyty ym Mae Abertawe yn paratoi hyd yn oed mwy o brydau blasus wrth iddynt aros ar y trywydd iawn i gyrraedd targedau gwastraff bwyd.
Mae tua 1.3miliwn o brydau cleifion yn cael eu cynhyrchu bob blwyddyn mewn tri o brif ysbytai’r bwrdd iechyd yn Nhreforys, Singleton a Chastell-nedd Port Talbot.
Er mwyn helpu i wella opsiynau prydau bwyd a lleihau gwastraff, mae ap archebu bwyd newydd wedi'i gyflwyno yn Singleton a Chastell-nedd Port Talbot.
Yn dilyn cyfnod prawf cychwynnol, mae wedi arwain at arbedion mawr o ran gwastraff bwyd a chyllid.
Dros gyfnod o 10 mis, roedd ychydig dros 29,000 o brydau bwyd ar gyfartaledd yn cael eu gwneud yn yr ysbytai hynny gyda 6,000 yn llai o brydau'n cael eu gwastraffu o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Mae wedi arwain at y bwrdd iechyd i torri ei wastraff bwyd i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o bump y cant ar ddiwedd pob gwasanaeth pryd yn rheolaidd, er bod gwaith yn parhau i ostwng y ffigur hwnnw.
YN Y LLUN: Rob Daniel (chwith), Dirprwy Bennaeth Gwasanaethau Cymorth a Matthew Turner o Synbiotix, a ddatblygodd yr ap bwyd.
Ochr yn ochr â gwella profiad i gleifion a lleihau gwastraff, mae’r bwrdd iechyd eisoes wedi cyfrifo arbediad o £11,000 diolch i’r system newydd.
Dywedodd Rob Daniel, Dirprwy Bennaeth Gwasanaethau Cymorth: “Rydym wrth ein bodd gyda llwyddiant y system archebu bwyd newydd. Mae adborth cleifion wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda llawer yn gwneud sylwadau ar yr ystod o fwyd sydd ar gael ac ansawdd y bwyd hwnnw.
“Mae profiad y claf bob amser ar frig yr agenda, felly mae wedi bod yn wirioneddol lwyddiannus o ran sut mae ein cleifion yn mwynhau eu prydau amser brecwast, cinio a swper.
“Trwy newid o’n fformat papur blaenorol, mae archebion bellach yn cael eu cymryd ar yr ap bwyd, gan westeiwr ward ag iPad. Cânt eu hanfon ar unwaith at y tîm arlwyo, sy'n golygu y gellir cymryd archebion mor agos at amser bwyd â phosibl.
“Mae gennym hefyd ymrwymiad i fodloni canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch gwastraff bwyd, ac rydym wedi hofran o gwmpas y ganran ofynnol ar draws Singleton a Chastell-nedd Port Talbot.
“Mae’n gynnydd da gan ei fod ar naw y cant cyn i’r ap bwyd ddod i mewn, ond mae gennym ni fwy o waith i’w wneud yn hynny o beth.”
Mae awydd i gyflwyno'r ap bwyd newydd ar draws mwy o ysbytai Bae Abertawe, gyda Gorseinon a Threforys nesaf yn y rhestr i dderbyn y system newydd eleni.
Mae'n parhau i fod yn waith ar y gweill, gydag adolygiadau rheolaidd yn cael eu cynnal i wella'r gwasanaeth ymhellach i gleifion.
YN Y LLUN: Croesawydd y ward Sally Robins yn cymryd archeb y claf Elise Griffiths.
Ychwanegodd Rob: “Mae adborth gan gleifion a staff yn hanfodol i helpu i wella'r gwasanaeth hwn, felly mae'n rhywbeth yr ydym yn parhau i'w ystyried cyn ei gyflwyno ar safleoedd pellach.
“Mae’r ffordd y mae ein timau arlwyo a chadw tŷ wedi cofleidio’r system newydd hefyd wedi bod yn bleserus iawn. Maent wedi cael eu hyfforddi mewn system ddigidol newydd o'r hen fformat papur. Maent wedi bod yn rhan annatod o lwyddiant yr ap bwyd newydd.
“Rydym yn dadansoddi gwastraff bwyd a'r rhesymau amrywiol y tu ôl iddo oherwydd mae angen i ni ddeall pam fod bwyd yn dal i gael ei adael ar y plât ac a yw'n rhywbeth y gallwn ei wella o ran ein gwasanaeth.
“Mae’r system archebu bwyd yn cael ei datblygu’n gyson a bydd yn ei lle ar draws ein holl ysbytai yn y dyfodol gan ei fod wedi bod yn llwyddiant mawr i gleifion, staff a’r bwrdd iechyd.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.