Caiff cyrsiau hyfforddi i gael gweithwyr gofal iechyd newydd a rhai sy'n dychwelyd i ysbytai yn gyflym wrth i'r galw godi oherwydd COVID-19 eu cynnal yn Stadiwm Liberty Abertawe.
Mae nyrsys newydd eu cofrestru, gweithwyr cymorth gofal iechyd newydd (HCSWs), staff clinigol presennol a myfyrwyr meddygol ymhlith y rhai ar raglenni sefydlu llwybr cyflym a ddyluniwyd yn arbennig ac a ddarperir gan y tîm addysg nyrsio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Mae maint y lleoliad, uchod, yn golygu y gall niferoedd mwy o hyfforddeion fynd trwy'r rhaglenni hyfforddi wrth barhau i allu arsylwi mesurau ymbellhau cymdeithasol.
Mae symud hyfforddiant allan o'r ysbytai hefyd wedi rhyddhau meysydd clinigol ar gyfer yr ymchwydd disgwyliedig yn nifer y cleifion.
Dywedodd Lynne Jones, pennaeth addysg nyrsio: “Mae'r rhain yn amseroedd digynsail ac rydym ni wedi cymryd y mesur rhyfeddol hwn i'n helpu i gyflawni ein hangen am staff newydd.
“Rydym yn ddiolchgar i Stadiwm Liberty am ganiatáu inni ddefnyddio eu cyfleusterau ac rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod ein staff mor barod â phosibl ar gyfer y rolau hanfodol y byddant yn eu chwarae.”
Mae'r cyrsiau sy'n cael eu cynnal yn cynnwys:
O fewn dyddiau bydd nyrsys wedi ymddeol a'r rhai sy'n dychwelyd i'r proffesiwn trwy gofrestr dros dro COVID-19 y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth hefyd yn cychwyn ar gyrsiau, sy'n cael eu cyflwyno yn nifer o ystafelloedd cynadledda'r stadiwm.
Disgwylir iddynt dderbyn dau i dri diwrnod o hyfforddiant.
Ychwanegodd Lynne: “Bydd hyfforddeion yn derbyn darlithoedd traddodiadol, ond byddant hefyd yn gweithio gyda mannequins lle bo angen fel y gallant ymarfer y sgiliau clinigol hollbwysig hynny.”
Dywedodd cadeirydd Dinas Abertawe, Trevor Birch: “Rwy’n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod y gwaith anhygoel y mae’r GIG a’r gweithwyr gofal yn ei wneud i’n cadw’n ddiogel. Heb os, nhw yw'r arwyr yn ystod yr amseroedd anodd a phryderus hyn i bawb.
“Fe wnaethon ni gynnig Stadiwm Liberty i’r GIG a’r gwasanaethau brys yn ystod dyddiau cynnar yr argyfwng ac rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni’n gallu eu cynorthwyo i ddelio â phandemig y Coronafeirws.
“Fel clwb pêl-droed gyda'n calon a'n meddwl yn gadarn yn y gymuned, dyma'r lleiaf y gallwn ei wneud i helpu."
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.