Mae ein Hadran Achosion Brys yn hynod o brysur – dyma rai lleoedd eraill i gael y gofal sydd ei angen arnoch.
Mae ein Hadran Achosion Brys bob amser yn brysur, ond ar hyn o bryd mae dan bwysau eithafol oherwydd y galw ychwanegol am ein gofal, gyda'r ffliw a salwch arall sy'n gysylltiedig â'r gaeaf yn lledaenu'n eang ledled y gymuned.
Felly meddyliwch yn ofalus cyn dod i'r Adran Achosion Brys - mae yna nifer o ddewisiadau eraill a all ddarparu'r gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch. Fodd bynnag, os oes gennych chi neu rywun annwyl salwch difrifol neu sy'n peryglu bywyd e.e. trawiad ar y galon, ataliad ar y galon, poenau yn y frest, strôc, diffyg anadl, colli gwaed yn drwm neu anaf difrifol, peidiwch ag oedi cyn ffonio 999 ar unwaith neu ewch i'n Hadran Achosion Brys, sydd wedi'i lleoli yn Ysbyty Treforys.
Ond os nad oes gennych chi unrhyw un o'r uchod, ble arall allai fod yn opsiwn llawer gwell ar gyfer cael cymorth?
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.