Roedd chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru Jac Morgan wrth ei fodd â chleifion ifanc ar Ward Plant Ysbyty Treforys pan aeth ar ymweliad Nadoligaidd â nhw.
Daeth y blaenasgellwr, sydd hefyd yn chwarae i’r Gweilch, o hyd i ambell seren rygbi addawol ac roedd yn gallu rhoi cyngor da iddynt ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i Jac ymweld â’r ward i ledaenu ychydig o hwyl y Nadolig ochr yn ochr â’i noddwr AT Morgan & Son o Abertawe.
Mae’r cwmni cludo nwyddau’n codi arian yn rheolaidd i’n helusen swyddogol, Elusen Iechyd Bae Abertawe, ar ôl rhoi mwy na £12,000 dros y tair blynedd diwethaf, y maent wedi’i godi drwy amrywiaeth o ddigwyddiadau gan gynnwys tynnu lori.
Bydd y digwyddiad tynnu lori hefyd yn ôl ym mis Medi'r flwyddyn nesaf i godi arian ar gyfer Canolfan Ganser De Orllewin Cymru yn Ysbyty Singleton.
Dywedodd y rheolwr cymorth codi arian, Lewis Bradley: “Rydym yn hynod ddiolchgar i AT Morgan & Son am fod yn bartner hirdymor i Elusen Iechyd Bae Abertawe, ar ôl cyfrannu swm eithriadol o arian dros y tair blynedd diwethaf.
“Hoffem hefyd ddiolch i Jac am gymryd seibiant o’i amserlen brysur i ddod i ymweld â’r ward unwaith eto. Roedd yna lawer o dalent newydd ar y ward sydd hefyd yn chwarae blaenasgellwr, felly roedden nhw mewn anghrediniaeth fod Jac wedi dod i ymweld.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.