Mae'r gwasanaeth profion gwaed yn Ysbyty Singleton yn symud yn swyddogol i brif fynedfa'r ysbyty.
Gellir dod o hyd i'r clinig fflebotomi newydd wrth yr ail ddrws, a elwid gynt yn swyddfa dderbyniadau, ar ochr chwith Coridor 1, ychydig heibio i ddesg dderbynfa'r gwirfoddolwyr.
Mae'r symudiad wedi'i gynllunio i wella profiad cleifion, symleiddio gweithrediadau a galluogi pobl i gael profion gwaed heb orfod mynd y tu allan i brif adeilad yr ysbyty a dringo bryn, sy'n agored i'r elfennau, i'r dde o'r prif adeilad.
Bydd yr adeilad newydd yn agor ar gyfer apwyntiadau ddydd Llun, 29ain Medi, 2025, am 8yb.
Dywedodd y rheolwr fflebotomi, Adel Owen-Goddard: “Hoffem ddiolch i’r cyhoedd am aros yn amyneddgar am y symudiad hwn a hoffem ddiolch i’n cydweithwyr ystadau am eu cymorth a’u cefnogaeth wrth wireddu hyn.
“Cafodd y penderfyniad i symud ei yrru gan sawl ffactor allweddol a’r prif un oedd heriau hygyrchedd.
“Mae’r lleoliad presennol wedi peri anawsterau i gleifion â phroblemau symudedd, mae ganddo barcio cyfyngedig a seilwaith hen ffasiwn.
“Bydd y clinig newydd wedi’i leoli yng Nghoridor 1 y gellir cyrraedd ato’n hawdd o’r brif fynedfa.
“Y manteision yw mynediad haws o’r maes parcio, parcio ceir anabl y tu allan a llwybr bws. Mae’r siop goffi gerllaw hefyd.
“Ni fydd unrhyw aflonyddwch ar unrhyw apwyntiadau sydd wedi’u trefnu; bydd popeth yn parhau fel arfer.
“Rydym yn annog ein holl ddefnyddwyr gwasanaeth i fynychu amser eu hapwyntiad oherwydd yn wahanol i’r llety presennol ni fydd ystafell aros ar gael, dim ond is-ardal aros fach.
“Mae’r symudiad wedi’i seilio ar wasanaethu’r cyhoedd yn well a diwallu anghenion llawer.
“Bydd ein gwirfoddolwyr gwerthfawr wrth law i helpu gydag unrhyw ymholiadau yn ystod yr wythnosau cyntaf a bydd ein timau profiadol yn darparu’r gofal gorau.”
Chwith: Y bryn ger yr hen glinig
Ychwanegodd Joanne Phillips, Dirprwy Reolwr Gwasanaeth: “Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod y gwasanaeth fflebotomi yn Ysbyty Singleton wedi bod yn uchelgais ers tro byd, gyda’r nod o wella hygyrchedd i’n cleifion drwy leoli’r gwasanaeth yn agosach at y brif fynedfa a’r adran cleifion allanol.
“Mae adborth gan gleifion a staff fel ei gilydd wedi tynnu sylw’n gyson at yr angen am leoliad mwy hygyrch, ac rydym yn falch o fod wedi gallu ymateb i’r pryderon hynny.
“Edrychwn ymlaen at glywed rhagor o adborth nawr bod yr adleoliad wedi digwydd, a gobeithio y bydd y newid hwn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bawb sy'n defnyddio'r gwasanaeth.”
* Capsiwn llun: Fflebotomydd Singleton, Bernadette Powell, a nododd leoliad y clinig newydd
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.