Mae ymgyrch i leihau gorddefnydd o wrthfiotigau a'r risgiau sy'n gysylltiedig ag ef wedi dechrau yn Ysbyty Treforys fel rhan o fenter ledled y DU.
Gall gwrthfiotigau fod yn rhan hanfodol o'r driniaeth. Ond yn aml maent yn parhau i gael eu rhoi i gleifion pan nad oes angen clinigol bellach.
Gall hynny achosi ymwrthedd i wrthfiotigau a gadael pobl sydd mewn perygl o gael heintiau annymunol fel C. difficile (a elwir weithiau yn C. diff), sy'n heintio'r perfedd ac yn achosi dolur rhydd.
Dechreuodd rhaglen ymchwil pum mlynedd o'r enw ARK-Hospital, a gynlluniwyd gan Brifysgol Rhydychen, yn 2015.
Ei nod yw lleihau heintiau difrifol a achosir gan ymwrthedd i wrthfiotigau yn y dyfodol, trwy leihau defnydd gwrthfiotig yn ddiogel mewn ysbytai yn awr.
Capsiwn: Dr Phil Coles a Holly Penn gyda'r siart feddyginiaeth newydd a gynlluniwyd fel rhan o brosiect ARK-Hospital
Mae Treforys yn un o ddau ysbyty yng Nghymru i gael eu dewis ar gyfer cam olaf y rhaglen. Cychwynnodd cynllun peilot ARK (Pecyn Adolygu Gwrthfiotigau) tri mis ar gyfer cleifion meddygol y mis hwn.
Y prif ymchwilydd yn Nhreforys yw anesthetydd ymgynghorol Dr Phil Coles, arweinydd gwella ansawdd a chadeirydd grŵp stiwardiaeth gwrthfiotig y bwrdd iechyd.
Dywedodd Dr Coles fod y rhan fwyaf o wrthfiotigau'n cael eu dechrau'n briodol mewn ysbytai ond yn aml roedd amharodrwydd i'w hatal yn gynnar hyd yn oed pan nad oedd eu hangen yn glinigol mwyach.
“Prif nod yr astudiaeth yw edrych ar wella sut rydym yn rhagnodi gwrthfiotigau yn yr ysbyty a sut rydym yn eu hadolygu, meddai Dr Coles .
“Beth sy'n digwydd ar hyn o bryd yw y gallai gwrthfiotigau gael eu dechrau a'u cario ymlaen am fwy o amser nag sydd ei angen, ac mae yna nifer o risgiau sy'n gysylltiedig â hynny.
“Mae ymwrthedd gwrthfiotig yn bwnc llosg yn y newyddion, ac mae gennym broblemau C. diff nid yn unig yn Abertawe ond yng Nghymru yn gyffredinol.
“Drwy leihau ein gorddefnydd o wrthfiotigau, byddwn yn helpu i leihau cyfradd ymwrthedd gwrthfiotigau yn ogystal â lleihau sgil-effeithiau sy'n gysylltiedig â gwrthfiotigau, fel C. diff.”
Ychwanegodd Julie Harris, y fferyllydd gwrthficrobaidd: “Gyda sepsis, er enghraifft, mae pawb yn gwybod bod yn rhaid i chi ddechrau gwrthfiotigau yn gyflym.
“Yr hyn nad ydym wedi'i gael yn iawn ar hyn o bryd yw'r adolygiad dilynol a rhoi'r gorau i wrthfiotigau pan gaiff haint ei ddiystyru.
“Nod ARK yw newid meddylfryd rhagnodwyr fel bod yn rhaid iddynt gyfiawnhau parhau â'r gwrthfiotig yn hytrach na chyfiawnhau ei atal.”
Mae siart meddyginiaeth newydd wedi'i chynllunio i gyfyngu ar bresgripsiynau gwrthfiotig cychwynnol i 72 awr. Yna bydd y claf yn cael ei adolygu a bydd presgripsiwn newydd yn cael ei ysgrifennu os oes angen un.
Bydd yn rhaid i feddygon a rhagnodwyr eraill gategoreiddio'r rhagnodion cychwynnol fel rhai ar gyfer heintiau tebygol neu bosibl , a fydd yn helpu gyda'r broses adolygu ddilynol.
Bydd yr adolygiad hefyd yn annog newid o roi gwrthfiotigau trwy bigiad i'w rhoi drwy'r geg i gleifion addas.
Bydd hyn yn lleihau risgiau heintiau sy'n gysylltiedig â'r ysbyty ymhellach, tra bydd cleifion sy'n cael eu symud i dabledi yn gallu mynd adref yn gynharach.
Mae pecyn addysg ar-lein ar gyfer staff, sy'n esbonio sut i ddefnyddio categorïau haint ARK i helpu gyda'r broses o wneud penderfyniadau wrth ragnodi gwrthfiotigau.
Capswin: Mae Dr Sabyasachi Roy, Dr Greg Handley a Dr Ismay Fabre ymhlith staff Ysbyty Treforys yn cymryd rhan
Bydd cleifion hefyd yn derbyn taflenni pan gânt eu rhagnodi gwrthfiotigau, gan esbonio'r risg a pham y gellir eu stopio yn gynt.
Fodd bynnag, pwysleisiodd Dr Coles y byddai'r cleifion hynny a oedd angen gwrthfiotigau yn dal i'w derbyn.
“Y nod cyffredinol yw lleihau gor-ragnodi gwrthfiotigau.
“Nid yw'n golygu peidio â rhoi gwrthfiotigau pan fydd cleifion eu hangen. Mae'n ymwneud â stopio gwrthfiotigau pan nad oes eu hangen mwyach.
“Rydym yn aml yn gweld organebau aml-gyffur sy'n gwrthsefyll cyffuriau mewn cleifion ac mae hynny'n debygol o gynyddu oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth yn ei gylch yn awr. Ni fyddwch yn stopio ymwrthedd i wrthfiotigau ond gallwch ei arafu. ”
Dywedodd Charlotte Richards, y fferyllydd gwrthficrobaidd y bu cyfres o fentrau i hyrwyddo ARK yn Nhreforys ers rhai misoedd.
“Rydym yn ceisio defnyddio cymaint o wahanol lwybrau i'w hyrwyddo ag y gallwn.
“Rydym yn darparu sesiynau hyfforddi i bob aelod o staff gan gynnwys meddygon, nyrsys a fferyllwyr i baratoi ar gyfer y lansiad.
“Rydym hefyd yn ceisio cael hyrwyddwyr ar bob ward - nyrsys, meddygon a fferyllwyr sy'n hyrwyddo ARK yn eu hardal.
“Mae'r peilot yn digwydd mewn meddygaeth. Fodd bynnag, yn debyg i ysbytai eraill sy'n rhan o'r astudiaeth, rydym yn gobeithio y bydd y fenter hon yn cael ei chyflwyno i bob arbenigedd ac ysbyty arall ym Mae Abertawe. ”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.