Rydym wrth ein bodd yn eich gwahodd i ymuno â Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ddydd Mawrth 9fed Medi 2025 am 3:30yp.
Cynhelir digwyddiad eleni yn bersonol yn Ystafell y Mileniwm yn y Pencadlys, One Talbot Gateway, Baglan, SA12 7BR ac yn rhithiol drwy MS Teams.
Dilynwch y ddolen hon i ymuno â'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol drwy Microsoft Teams.
Cynghorir y rhai sy'n mynychu'n rhithiol i lawrlwytho Ap Teams ymlaen llaw er mwyn i chi allu cymryd rhan lawn. Os ymunwch trwy borwr bydd rhai cyfyngiadau fel peidio â gallu gofyn cwestiynau.
Bydd camerâu a meicroffonau’n cael eu dadactifadu yn ystod y cyfarfod i osgoi ymyrraeth ac yna’n cael eu galluogi yn ystod yr adran C&A (Cwestiwn ac Ateb). Rydym hefyd yn gwahodd cwestiynau drwy’r swyddogaeth C&A yn yr ap, os byddai’n well gennych ymgysylltu heb droi sain/fideo ymlaen.
Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei recordio a'i uwchlwytho i'r wefan yn dilyn y cyfarfod.
Gallwch hefyd godi cwestiwn cyn y cyfarfod drwy anfon e-bost BIPBA.GwasanaethauBwrdd@wales.nhs.uk cyn dydd Gwener 5ed Medi. Mae hyn yn ddefnyddiol wrth sicrhau y gallwn ateb eich cwestiwn yn llawn yn y cyfarfod.
Oherwydd maint yr ystafell, os hoffech ymuno â ni yn bersonol, a allwch gadarnhau eich presenoldeb drwy e-bostio BIPBA.GwasanaethauBwrdd@wales.nhs.uk .
Dyma'r rhaglen ar gyfer y sesiwn:
Bydd y cyfarfod yn dod i ben erbyn 5yp.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.