Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio Gyda'n Gilydd i Wella Bywydau yng Nghastell-nedd Port Talbot

Delwedd o The Orangery ym Margam.

Cyhoeddwyd ar ran Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Castell-nedd Port Talbot. Nodyn: Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn bartner blaenllaw o fewn y BGC.

 

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot wedi cyhoeddi ei ail adroddiad blynyddol, sy'n dangos cynnydd o ran ei gynllun i wneud yr ardal yn lle iachach, tecach a mwy llewyrchus i fyw ynddo.

Daw'r Bwrdd â sefydliadau lleol ynghyd er mwyn gwella llesiant ein cymunedau. Yma yn CNPT, mae pedwar sefydliad yn aelodau statudol o'r Bwrdd: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyfoeth Naturiol Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Yn dilyn asesiad manwl o anghenion lleol, ymgysylltu pellgyrhaeddol ac adborth gan y cyhoedd, lansiodd y Bwrdd ei Gynllun Llesiant 2023-2028.

Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar bedwar prif nod:

  • Rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn
  • Helpu cymunedau i ffynnu
  • Diogelu diwylliant, treftadaeth a'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
  • Helpu trigolion i ddysgu sgiliau a chael swyddi gwyrdd o safon uchel

Ymhlith yr uchafbwyntiau o'r adroddiad diweddaraf mae:

  • Cynllun Blynyddoedd Cynnar a ddatblygwyd ar y cyd â Chyngor Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
  • Cymorth i deuluoedd y mae'r argyfwng costau byw wedi effeithio arnynt, gan gynnwys ymgyrch Credyd Pensiwn a sicrhaodd bron i £450,000 mewn budd-daliadau i hawlwyr lleol
  • Grŵp newydd sy'n gweithio ar risgiau newid hinsawdd a strategaeth er mwyn helpu'r ardal i addasu
  • Digwyddiadau i ddathlu diwylliant lleol, megis Canmlwyddiant Richard Burton a chynnal Eisteddfod yr Urdd ym Mharc Margam
  • Gwaith parhaus i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn mannau problemus mewn cymunedau lleol

Gan edrych tua'r dyfodol, dywedodd Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, y Cyngh. Steve Hunt:“Rydyn ni'n falch o'r partneriaethau cadarn rydyn ni wedi'u datblygu, sy'n ein helpu ni i ymateb i heriau a sicrhau gwell canlyniadau i'n cymunedau. Gwyddom fod cyfnod anodd o'n blaenau, ond rydyn ni'n ymrwymedig i weithio gyda'n gilydd ac rydyn ni'n croesawu syniadau gan bobl leol er mwyn helpu i lywio ein dyfodol.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.