Deialu M ar gyfer Mamolaeth - Mae ward esgor Ysbyty Singleton wedi gosod llinell ffôn uniongyrchol i Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) er mwyn cael gwybod am argyfyngau mamolaeth sy'n dod i mewn.
Mae menter 'ffôn coch' WAST yn galluogi criwiau ambiwlans i ragrybuddio unedau mamolaeth am argyfyngau obstetreg sy'n hanfodol o ran amser fel bod timau derbyn yn barod i'r claf gyrraedd.
Mae'r sgyrsiau rhwng y clinigwyr drwy linell ffôn benodol wedi'u cynllunio i symleiddio cyfathrebu rhwng criwiau ambiwlans a staff ysbytai a gwella gofal y claf ymhellach.
Mae’r fenter eisoes wedi’i chyflwyno i sawl bwrdd iechyd ac mae’n cael ei gweld fel cam ymlaen i wella diogelwch.
Dywedodd Bethan Jones, Hyrwyddwr Diogelwch Amenedigol a Bydwraig gyda Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Mae pob eiliad yn cyfrif mewn argyfwng, felly po fwyaf o wybodaeth y gallwn ei throsglwyddo i’r uned famolaeth, gorau oll y gallant baratoi drwy alw’r clinigwyr cywir i mewn a threfnu popeth sydd ei angen arnynt i ddarparu gofal brys.
“Mae’r ffôn coch yn ein galluogi i wneud yn union hynny, gan weithredu fel un pwynt mynediad i unedau obstetreg, gwella cyfathrebu a fydd, yn ei dro, yn ein galluogi i ddarparu gofal amserol o ansawdd uchel i’r claf a’i faban.
“Roedd adroddiad Corff Ymchwiliadau Diogelwch y Gwasanaethau Iechyd a gyhoeddwyd yn 2022 yn tanlinellu pwysigrwydd y broses rhag-rybudd mewn sefyllfaoedd mamolaeth amser-gritigol, ac mae’r gwaith hwn yn cefnogi dull rhagweithiol a arweinir gan systemau o ddatblygu datrysiadau.”
Croesawodd Kath Greaves, Cyfarwyddwr Clinigol Bydwreigiaeth Bae Abertawe, y symudiad.
Meddai: “Rwy'n falch iawn o weld y ffôn coch yn cael ei gyflwyno ym Mae Abertawe i gefnogi ein timau Bydwreigiaeth, WAST ac Obstetreg i gynnal cyswllt uniongyrchol penodedig mewn achosion brys.
“Mae hyn yn galluogi timau aml-broffesiynol i ddarparu ymyrraeth amserol, diogel a phriodol lle bo angen.
“Mae cael dull aml-broffesiynol tîm amlddisgyblaethol o gefnogi menywod sy’n profi argyfyngau yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth yn ychwanegiad i’w groesawu er mwyn sicrhau gofal amserol a diogel.”
Mae criwiau ambiwlans yn gwneud galwadau'n uniongyrchol i unedau obstetreg trwy ap Consultant Connect.
Dywedodd Jonathan Patrick, Prif Weithredwr Consultant Connect: “Bydd y fenter ffôn coch hon yn golygu bod ysbytai yng Nghymru wedi’u paratoi’n dda ar gyfer sefyllfaoedd obstetreg brys, gan roi’r gofal gorau posibl i famau a’u babanod pan fyddant yn wynebu problemau annisgwyl.
“Rydym bob amser wedi gwybod bod GIG Cymru o ddifrif ynglŷn â gwella cyfathrebu clinigol, a dyma enghraifft arall eto o sut y mae’n gwella gofal cleifion drwy wneud yn siŵr bod clinigwyr yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt mewn modd amserol.”
Yn y llun o'r chwith i'r dde: David Williams, WAST, Laura Rose, bydwraig arweiniol intrapartum, Bethan Jones, hyrwyddwr diogelwch cleifion WAST, a Kate Bannister, ymarferydd gwella ansawdd arweiniol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.