Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth dolur gwddf poblogaidd bellach ar gael ym mhob fferyllfa gymunedol

Menyw yn eistedd ar wely gyda dolur gwddf

Gellir asesu a hyd yn oed trin pobl sy'n dioddef o ddolur gwddf yn agos at eu cartref heb yr angen am apwyntiad gyda meddyg teulu.

Mae'r gwasanaeth profi a thrin dolur gwddf bellach ar gael ym mhob un o'r 90 fferyllfa gymunedol ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot cyn y gaeaf.

Mae hyn yn dilyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a ganiataodd i'r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin ehangu a dod ar gael mewn 99 y cant o fferyllfeydd yn genedlaethol.

Mae'r gwasanaeth poblogaidd ar gael i bawb dros bum mlwydd oed.

Bydd yn galluogi mwy o gleifion i gael eu hasesu a'u trin, os oes angen, yn agosach at adref heb yr angen am apwyntiad gyda meddyg teulu.

I gael mynediad at y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, rhaid i bobl gofrestru gyda'r fferyllfa, sydd ond yn cymryd ychydig funudau.

Cynhelir ymgynghoriadau mewn ystafell breifat ac os bydd y fferyllydd yn penderfynu bod angen iddynt weld meddyg o hyd, byddant yn cael eu hatgyfeirio.

Dywedodd Sam Page, Pennaeth Gofal Sylfaenol y bwrdd iechyd: “Mae hyn wedi helpu i gynyddu nifer y gwasanaethau clinigol sydd ar gael mewn fferyllfeydd cymunedol.

“Mae llawer o gleifion yn mynd i’w meddygfa am ddolur gwddf ond nawr gellir eu gweld mewn fferyllfa gymunedol gerllaw.

“Mae’r ehangu wedi helpu i wneud y gwasanaeth poblogaidd yn fwy hygyrch ym mhob un o’n cymunedau.”

Mae rheoli dolur gwddf fel rhan o'r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin yn caniatáu i fferyllwyr asesu cleifion dros bump oed sydd â dolur gwddf.

Yn ystod yr asesiad, bydd y fferyllydd yn penderfynu a yw'n briodol swabio gwddf y claf ac, os felly, bydd y canlyniad yn pennu a yw'r dolur gwddf oherwydd haint bacteriol.

Ar ôl i'r prawf swab gwddf gael ei gynnal, dim ond ychydig eiliadau y mae'n rhaid i gleifion aros i dderbyn y canlyniad.

Yn dibynnu ar y canlyniad a symptomau'r claf, gall y fferyllydd gynnig triniaeth, heb fod angen cael presgripsiwn gan feddyg teulu, neu bydd cyngor hunanofal yn cael ei ddarparu.

Ychwanegodd Sam: “Efallai y bydd fferyllfeydd cymunedol yn gofyn i gleifion ffonio’n ôl neu archebu apwyntiad iddyn nhw, ond mae wedi lleihau’r angen iddyn nhw wneud apwyntiad gyda meddyg teulu o hyd.”

Mae rhai pobl nad yw'r gwasanaeth yn addas ar eu cyfer. Cynghorir hwy i gysylltu â'u meddygfa os:

  • Mae'r symptomau'n barhaus ac nid ydynt wedi gwella ar ôl wythnos.
  • Mae ganddyn nhw system imiwnedd wan.
  • Mae ganddyn nhw dymheredd uchel nad yw'n cael ei reoli gan barasetamol nac ibuprofen.
  • Mae ganddyn nhw gyflwr meddygol neu maen nhw wedi cael dolur gwddf yn aml yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.