Mae gwaith yn dechrau heddiw, dydd Llun 2il Mehefin, ar greu canolfan ddialysis o'r radd flaenaf mewn hen ffatri ym Mhort Talbot.
Bydd Stationary House yn Acacia Avenue, Traethmelyn, yn cael ei ddymchwel yn rhannol yn barod i adeiladu'r uned newydd.
Mae'n rhan o fuddsoddiad gwerth £70 miliwn mewn gwasanaethau arennol yn Ne Cymru a bydd yn helpu i leddfu rhywfaint o'r pwysau ar Ysbyty Treforys.
Bydd cleifion hefyd yn gallu dialysu'n agosach at adref pan fydd yr uned newydd yn agor, a disgwylir i hynny fod yng ngwanwyn y flwyddyn nesaf.
Bydd yn cynnwys 27 o orsafoedd gyda chynhwysedd uchaf o 108 o gleifion. Bydd ganddo hefyd ardal hyfforddi i nyrsys sy'n dysgu pobl i ddialysu gartref.
Darperir gwasanaethau arennol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i bobl yn ei ardal ei hun yn ogystal â'r rhai ym myrddau iechyd Hywel Dda a Chwm Taf Morganwg.
Mae'r gwasanaethau presennol yn cynnwys dwy uned hemodialysis yn Ysbyty Treforys – sy'n derbyn cleifion o Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr – ac un yr un yn Aberystwyth, Caerfyrddin a Hwlffordd.
Gyda chyllid gan Bwyllgor Comisiynu ar y Cyd GIG Cymru, mae sawl gwelliant mawr eisoes wedi'u cyflawni, megis uwchraddio'r pum uned hemodialysis bresennol yn Ne-orllewin Cymru.
Mae dau o'r rhain yn Ysbyty Treforys, gydag un yr un yn Aberystwyth, Caerfyrddin a Hwlffordd. Mae cleifion yno eisoes yn elwa o beiriannau dialysis newydd a chyfleusterau ac offer eraill.
Fodd bynnag, roedd y bwrdd iechyd hefyd yn cydnabod yr angen am unedau dialysis ychwanegol, yn cwmpasu ardaloedd Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr.
Agorodd yr uned ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gynharach eleni. Fe'i rhedir ar ran Bae Abertawe gan Fresenius Medical Care, sydd hefyd yn rhedeg y tair uned yng Ngorllewin Cymru.
Bydd yn rhedeg canolfan Acacia Avenue hefyd. Bydd Fresenius yn recriwtio'r staff, sy'n cynnwys 18 o staff clinigol fel nyrsys, cynorthwywyr dialysis a chynorthwywyr gofal iechyd, rheolwr clinig, a staff gweinyddol a staff cadw tŷ.
Bydd y gofal meddygol yn parhau i gael ei ddarparu gan ymgynghorwyr a fferyllwyr y GIG sy'n gofalu am y cleifion yn Nhreforys ar hyn o bryd, gan sicrhau parhad da o ran gofal.
Dywedodd rheolwr cyfarwyddiaeth yr arennau, Sarah Siddell: “Mae dechrau’r gwaith ar y ganolfan ddialysis newydd ym Mhort Talbot yn nodi cam sylweddol ymlaen i ofal arennau ledled De-orllewin Cymru.
“Mae’r datblygiad hwn yn ganlyniad blynyddoedd o gynllunio a chydweithio gofalus ac mae’n adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu gofal hygyrch sy’n canolbwyntio ar y claf.
“Drwy ddarparu cyfleuster o’r radd flaenaf yn agosach at ble mae llawer o’n cleifion yn byw, rydym yn lleihau straen teithio ac yn gwella ansawdd bywyd unigolion sydd angen dialysis rheolaidd.”
“Rydym yn arbennig o falch y bydd y ganolfan hefyd yn gwasanaethu fel canolfan ar gyfer hyfforddiant mewn dialysis cartref, gan gefnogi mwy o annibyniaeth i gleifion.
“Mae’r buddsoddiad hwn yn dangos gweledigaeth hirdymor ar gyfer gwasanaethau arennol, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y manteision y bydd yn eu cynnig i gleifion, teuluoedd a staff fel ei gilydd pan fydd yn agor y flwyddyn nesaf.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.