Gall menywod sydd â haint y llwybr wrinol gael rhyddhad poen nawr, os oes angen, ym mhob fferyllfa gymunedol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Gellir rheoli heintiau'r llwybr wrinol bellach ym mhob un o'r 90 fferyllfa yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot cyn y gaeaf.
Bydd fferyllwyr yn cwblhau asesiad clinigol gyda'r claf i benderfynu a oes angen triniaeth. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen prawf wrin.
Os oes angen triniaeth, gall y fferyllydd ddarparu hyn heb i'r claf orfod gweld meddyg teulu.
Gallant hefyd gynnig cyngor hunanofal a gwybodaeth am beth i'w wneud os bydd symptomau'n gwaethygu.
Mae'r uwchraddiad yn dilyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i gynnig y gwasanaeth mewn 99 y cant o fferyllfeydd ledled Cymru.
Bydd yr ehangu’n caniatáu i fwy o bobl gael eu hasesu a’u trin, os oes angen, heb orfod gweld meddyg teulu yn gyntaf.
Mae'r gwasanaeth ar gael i'r rhan fwyaf o fenywod rhwng 16 a 64 oed, sydd â symptomau haint wrinol.
Gall y rhain gynnwys poen neu deimlad llosgi wrth wneud mynd i biso, angen piso yn amlach nag arfer, angen mynd i biso yn sydyn neu'n fwy brys nag arfer ac anghysur yn rhan isaf y stumog, ymhlith symptomau eraill.
Fe'i darperir fel rhan o'r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, sy'n golygu bod yn rhaid i chi gofrestru gyda'r fferyllfa i gael mynediad ato, sydd ond yn cymryd ychydig funudau.
Cynhelir ymgynghoriadau mewn ystafell breifat ac os yw'r fferyllydd yn penderfynu bod angen i chi weld meddyg o hyd, byddant yn eich atgyfeirio.
Dywedodd Sam Page, Pennaeth Gofal Sylfaenol Bae Abertawe: “Byddai llawer o gleifion yn gwneud apwyntiad yn eu meddygfa ar gyfer haint llwybr wrinol syml ond nawr gellir eu gweld yn hawdd mewn fferyllfa gymunedol yn lle hynny.
“Bydd hyn yn helpu i wella a chynyddu mynediad i’n cleifion sy’n gallu mynd i unrhyw un o’n fferyllfeydd cymunedol i gael mynediad at y gwasanaeth hwn.
“Bydd y cyflwyniad hwn yn helpu i sicrhau y gall hyd yn oed mwy o gleifion dderbyn gofal yn agosach at adref ac mae wedi helpu’n ddiamau i gynyddu mynediad at y gwasanaeth drwy ei symleiddio’n fwy i gleifion.”
Cyflwynwyd rheoli heintiau’r llwybr wrinol fel rhan o’r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin mewn rhai fferyllfeydd cymunedol y llynedd ac mae’n caniatáu i’r fferyllydd asesu symptomau a darparu rhyddhad poen neu driniaeth am ddim os oes angen.
Dylai menywod 65 oed a throsodd sydd â symptomau UTI gysylltu â'u meddygfa neu GIG 111 Cymru o hyd.
Gall rhai cleifion gael haint mwy cymhleth ac efallai y bydd angen profion a thriniaeth ychwanegol arnynt.
Mae pobl sy'n feichiog, sydd â systemau imiwnedd gwan, tymheredd uchel neu sydd â chyflyrau meddygol penodol ymhlith y rhai na fyddant efallai'n gallu cael mynediad at y gwasanaeth.
Yn yr achos hwn, fe'u cynghorir i siarad â fferyllydd cymunedol neu feddygfa i gael cyngor ynghylch pa wasanaeth sydd fwyaf addas iddyn nhw.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.