Anghofiwch fideos ymarfer corff Joe Wicks… Mae ffisiotherapyddion Bae Abertawe wedi ffilmio eu canllaw eu hunain i helpu pobl hŷn i symud mwy i hybu eu hiechyd a'u lles cyffredinol.
Mae'r fideo pedair munud o hyd yn dangos chwe ymarfer symudedd syml, y gellir eu cynnal o safle eistedd, wedi'u cynllunio i gynnal symudedd.
Mae bod yn actif yn helpu i atal datgyflyru, sef adwaith cadwynol o effeithiau negyddol. Er enghraifft, mae anweithgarwch yn golygu bod cyhyrau'n gwanhau, felly mae gan unigolion risg fwy o syrthio pan fyddant yn sefyll i fyny ac yn symud o gwmpas.
Gall eistedd neu orwedd yn llonydd am ormod o amser hefyd achosi wlserau pwysau, cynyddu dryswch a diffyg cyfeiriadedd a gall arwain at beidio â bwyta na yfed digon.
Mae gan yr holl bethau hyn y potensial i achosi niwed pellach ac i gleifion mewnol, arosiadau hirach yn yr ysbyty.
Mae'r fideo wedi'i amseru i gyd-fynd ag ymgyrch Awst Actif y bwrdd iechyd, sy'n canolbwyntio ar helpu i wrthweithio datgyflyru - y term meddygol am yr effaith negyddol ar eich iechyd corfforol a meddyliol a achosir gan eistedd neu orwedd am gyfnodau hir o amser.
Helpodd Rebecca Fayle, Ffisiotherapydd Arweiniol Clinigol, i gynhyrchu'r fideo.
Dywedodd: “Mae datgyflyru yn cyfeirio at golli ffitrwydd a swyddogaeth gorfforol, sy’n aml yn digwydd yn ystod cyfnod hir yn yr ysbyty neu o ganlyniad i gyfnodau o analluogrwydd.
“Gall unigolion osgoi datgyflyru drwy gymryd camau bach i gynnal eu hystod symudiad a’u cryfder. Gall y rhain gynnwys symud yn rheolaidd, gweithgareddau swyddogaethol ac ymarferion rheolaidd.
“Mae’r fideo hwn yn cynnwys rhai ymarferion sylfaenol y gall unigolion eu gwneud yn ystod derbyniadau i’r ysbyty neu gartref i gynnal eu cryfder a’u symudedd. Mae’r ymarferion hyn yn darparu rhai ymarferion ymestyn ac cryfhau ar gyfer aelodau uchaf, y boncyff a’r aelodau isaf.”
Dywedodd y ffisiotherapydd Carys Edmunds, (uchod), sy'n ymddangos yn y fideo: “Hoffwn ddiolch i chi gyd am y profiad gwych o gymryd rhan mewn hyrwyddo ymarfer corff a phwysigrwydd symudiad, yn enwedig yn ein hadran brysur.
“Er fy mod i ychydig yn nerfus, fe ddaeth yn hwyl fawr yn y diwedd, ac rwy'n gwerthfawrogi'r cyfle yn fawr iawn.
“Gobeithio y bydd cleifion a staff yn elwa llawer o’r fideo. Mae mor bwysig ein bod yn parhau i wella gwasanaethau ffisiotherapi ac yn tynnu sylw at ba mor hanfodol yw ymarfer corff wrth atal datgyflyru, yn enwedig mewn oedolion hŷn.”
Dywedodd y ffisiotherapydd Ceiron Browning, a weithiodd ar y fideo: “Wrth baratoi ar gyfer y fideo, ar ôl gweithio mewn gwasanaethau drws ffrynt, rydym yn gweld gwerth a phwysigrwydd ymarfer corff a chadw’n actif mewn gwirionedd.
“Mae’n wych defnyddio ein hangerdd dros gyflyru a chadw’n actif i gefnogi eraill a hwyluso pobl i fynd adref yn ddiogel ac yn hyderus, gan roi’r wybodaeth iddyn nhw aros yn annibynnol.”
Gallwch wylio fersiwn Cymraeg y fideo yma .
Gallwch wylio fersiwn Saesneg y fideo yma .
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.