Mewn cyfarfod arbennig o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe heddiw (26/2/2026) cytunwyd i ymestyn y trosglwyddiad dros dro o welyau o Ysbyty Gorseinon i Ysbyty Singleton am chwe mis arall.
Trosglwyddwyd y gwelyau yn wreiddiol i Singleton ym mis Hydref am resymau diogelwch cleifion ac roeddent i fod i aros yno tan 31ain Mawrth. Mae penderfyniad heddiw yn golygu y bydd y gwelyau bellach yn parhau i aros yn Singleton tan 30ain Medi 2026.
Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi bod Ysbyty Gorseinon yn parhau ar agor. Nid oes gennym unrhyw gynlluniau o gwbl i gau'r ysbyty.
Mae Gorseinon yn gartref i ystod eang o wasanaethau cleifion allanol a chymunedol gwerthfawr (*gweler isod), yn ogystal â bod yn lleoliad allweddol ar gyfer profion gwaed.
Ers trosglwyddo'r gwelyau ym mis Hydref, rydym wedi gwneud llawer o gynnydd o ran datrys pryderon diogelwch. Fodd bynnag, ni fyddem wedi bod mewn sefyllfa eto i ddychwelyd y gwelyau'n ddiogel i Orseinon erbyn diwedd mis Mawrth. Mae manylion llawn y cynnydd a wnaed a'r heriau sy'n weddill wedi'u hamlinellu'n fanylach yn y papurau ar gyfer y Bwrdd Arbennig.
Nid yw'r estyniad hwn yn newid ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i Ysbyty Gorseinon, ac rydym yn parhau i weld bod ganddo ddyfodol bywiog a phwysig.
Bydd natur y rôl y mae Ysbyty Gorseinon yn ei chwarae yn y dyfodol yn cael ei hystyried fel rhan o'n cynllun gwasanaethau clinigol ehangach, sef Trawsnewid ar gyfer y Dyfodol , sy'n edrych ar y ffordd orau y gallwn ddarparu ein holl wasanaethau clinigol mewn ffyrdd sy'n cynnig gofal o ansawdd uchel, diogel a chynaliadwy.
Felly, bydd y chwe mis nesaf yn rhoi’r cyfle inni siarad â staff, rhanddeiliaid a’r cyhoedd, a byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau gwrando, gan ddechrau yng Ngorseinon, i sicrhau bod barn y boblogaeth leol yn cael ei bwydo i’r broses honno cyn i ni hyd yn oed ddechrau ysgrifennu.
*Mae Ysbyty Gorseinon yn ganolfan i nifer o dimau a gwasanaethau cymunedol. Nid ydynt wedi cael eu heffeithio gan drosglwyddo gwelyau i Singleton ac maent yn parhau i weithredu fel arfer:
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.