Rydym yn falch o nodi bod achosion o'r ffliw a firysau eraill sy'n lledaenu'n hawdd wedi dechrau lleihau yn ardal Bae Abertawe. Oherwydd hyn, rydym yn gallu llacio rhai o'r cyfyngiadau sy’n gysylltiedig ag ymweld a hefyd yr angen i wisgo mwgwd /gorchudd wyneb a chyflwynwyd yn ddiweddar. Gweler manylion isod cyn ymweld.
Codwyd y cyfyngiadau yn Ysbytai Singleton a Chastell-nedd Port Talbot, a rhannau sylweddol o Ysbyty Treforys. Fodd bynnag, mae rhai cyfyngiadau dal i fod mewn grym mewn mannau penodol yn Nhreforys ac ar wardiau cleifion mewnol yn Ysbyty Gorseinon.
Yn yr ardaloedd a rhestrir isod, cyfyngir ymweliadau yn llym i *ymweld â phwrpas a rhaid trafod a chytuno ymweliadau gyda’r ward yn gyntaf. Os yw ymweliad yn cael ei gytuno, rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb.
Bellach, nid oes angen gwisgo mygydau/gorchuddion wyneb yn ein hysbytai, ac eithrio’r lleoliadau canlynol lle dylech barhau i’w wisgo.
*Mae Ymweld â Phwrpas yn caniatau i un ffrind neu berthynas i ymweld â chlaf dan amgylchiadau arbennig. Er enghraifft, ymweld â rhywun sydd yn niwrnodau olaf ei hoes, neu sydd ag amhariad cof, neu sydd angen lefel uchel o gefnogaeth emosiynnol. Hynny yw, pan fydd ymweliad yn cael ei ystyried yn hanfodol ar gyfer llesiant claf sy’n agored i niwed. Rhaid cytuno hyn o flaen llaw gyda staff y ward a rhwystrir ymweliadau i un awr y diwrnod. Caiff y wybodaeth ar y dudalen we hon ei ddiweddaru yn rheolaidd, felly gwiriwch yma cyn ymweld.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.