Yn ein cyfarfod bwrdd diweddar, fe wnaethom ystyried gwaith gwella parhaus yn ein Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol.
Clywodd y cyfarfod hefyd, o dan eitem ar wahân, yn uniongyrchol gan Gadeirydd Panel Goruchwylio'r Adolygiad Annibynnol a'i arweinydd ymgysylltu â chleifion ar y cynnydd y mae'r tîm adolygu yn ei wneud.
Cyfeiriwyd hefyd at adroddiad Llais ar brofiadau yn ein Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol, a gyhoeddwyd yn gynharach ym mis Mai, ynghyd â'r ffordd y byddai'r Adolygiad Annibynnol yn ystyried canfyddiadau Llais ochr yn ochr ag adborth o weithgareddau ymgysylltu eraill.
Roedden ni eisiau unwaith eto gofnodi yn y Bwrdd ein diolchgarwch i'r holl fenywod a'u teuluoedd a gymerodd yr amser i gyfrannu at waith Llais – rydyn ni'n gwybod y bydd hyn wedi bod yn anodd i lawer o fenywod a theuluoedd sy'n ail-fyw profiadau gwael neu drawmatig yn ein gofal.
Rydym hefyd yn diolch i Llais am y gwaith maen nhw wedi'i wneud i alluogi cynifer o bobl i rannu eu profiad ac i adrodd ar hyn mor glir.
Yn y Bwrdd, fe wnaethom gydnabod, i rai menywod a'u teuluoedd, nad oedd y gofal a ddarparwyd gennym o'r ansawdd y dylai fod wedi bod, ac i nifer fach o fenywod a theuluoedd, mae'r canlyniadau wedi bod yn ddinistriol ac wedi newid bywydau.
Rydym yn cynnig ein hymddiheuriadau diffuant a chalonog i'r menywod hynny a'u teuluoedd. Rydym yn cefnogi nifer o deuluoedd ond os oes unrhyw un yn teimlo bod angen iddynt godi pryderon ynghylch eu gofal, anogwch nhw i ddod ymlaen neu cysylltwch â ni ar eu rhan.
Atgyfnerthodd Cadeirydd yr Adolygiad Annibynnol y neges hefyd fod yr Adolygiad Annibynnol eisiau clywed gan gynifer o bobl â phosibl ac mae wedi cadarnhau y gall menywod ddod ymlaen o hyd i rannu eu profiad os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Rydym yn gwneud gwelliannau yn y ffordd rydym yn darparu ein Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol – nid ydym yn aros am adroddiad terfynol yr Adolygiad Annibynnol yn unig.
Mae rhai gwelliannau eisoes wedi'u cyflawni, megis lefelau staffio gwell ac ailagor y gwasanaeth genedigaethau cartref a'r ganolfan enedigaethau annibynnol yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.
Mae gwelliannau eraill ar y gweill, megis cryfhau ein dull o flaenoriaethu a datblygu dangosfwrdd o wybodaeth allweddol sy'n dweud wrthym sut mae'r gwasanaeth yn perfformio ac yn tynnu sylw at faterion sy'n peri pryder – tra bod hyn ar waith, rydym yn ei fireinio'n barhaus i sicrhau bod gennym y wybodaeth gywir ar yr amser cywir i lywio penderfyniadau ac amlygu materion.
Rydym hefyd wedi cyfrannu at ddatblygiad Fframwaith Mamolaeth a Newyddenedigol Cymru Gyfan yr ydym yn ei weithredu nawr.
Ond rydyn ni'n gwybod bod mwy sydd angen i ni ei wneud i sicrhau ein bod ni'n darparu gofal o ansawdd uchel, tosturiol, sy'n wybodus am drawma bob tro i bob claf.
Mae ein cydweithwyr yn ein Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol wedi ymrwymo i ddysgu o'r adborth sydd eisoes wedi'i sicrhau a'r hyn a ddaw o ganfyddiadau'r Adolygiad Annibynnol. Rydym yn gwybod eu bod am ddarparu'r gofal gorau posibl i'n cleifion a chyda nhw, a hoffem ddiolch iddynt am y ffordd gadarnhaol y maent yn ymateb.
Mae ein Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Phrofiad Cleifion newydd, sydd wedi ymuno â ni o Ymddiriedolaeth GIG yn Lloegr, wedi cymryd yr awenau gweithredol dros Wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol. Mae hi'n sefydlu Pwyllgor Gwasanaethau Perinatal newydd a fydd yn goruchwylio gwelliannau parhaus ac yn adrodd i Bwyllgor Ansawdd a Diogelwch ein Bwrdd ac wedi hynny i'n Bwrdd.
Yn ei gyfarfod, atgoffwyd y Bwrdd gan Gadeirydd y Panel Goruchwylio o natur bellgyrhaeddol yr Adolygiad Annibynnol a chymwysterau'r rhai a oedd yn rhan ohono. Estynnwyd cwmpas yr Adolygiad Annibynnol yn dilyn adborth ac mae'r tîm adolygu clinigol a'r Panel Goruchwylio ar wahân yn cynnwys arbenigwyr blaenllaw'r DU yn eu meysydd. Maent yn arbenigwyr pwnc cwbl annibynnol ar y gwasanaethau clinigol o fewn y cwmpas ac ar ymgysylltu â phobl a theuluoedd, gan gynnwys y rhai sydd wedi profi trawma.
Pan fyddwn yn derbyn adroddiad terfynol yr Adolygiad Annibynnol ym mis Gorffennaf, bydd angen i ni gymryd peth amser i ystyried ei ganfyddiadau'n gydwybodol. Byddwn yn gwneud hynny ac yn sicrhau ein bod yn glir ynghylch sut y byddwn yn ymgysylltu â theuluoedd a defnyddwyr gwasanaeth yn yr wythnosau nesaf fel y gallwn ddatblygu cynllun gwella gyda'n gilydd.
Gall unrhyw unigolyn sydd â phryderon am eu gofal yn y gorffennol, yn y presennol neu yn y dyfodol gysylltu drwy BIPBA.YmholiadauMamolaeth@wales.nhs.uk neu drwy ffonio 01639 683316. Mae'r mewnflwch a'r llinell ffôn ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener 8.30 -5yp.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.