Mae’r Bwrdd Iechyd yn rhoi ystyriaeth brys i gynlluniau i gau Ward y Gorllewin (ward cleifion mewnol) yn Ysbyty Gorseinon dros dro, a throsglwyddo cleifion at ward wag yn Ysbyty Singleton.
Er nad oes penderfyniad terfynol wedi’i wneud eto, rhoddir cynlluniau at ei gilydd fel ymateb i bryderon difrifol o gwmpas staffio’r ward 30 gwely a sut y gall effeithio ar ddiogelwch cleifion yn y dyfodol.
Mae Ward y Gorllewin yn darparu 30 o welyau ‘camu-i-lawr’ sydd yn galluogi cleifion i bontio’r bwlch rhwng gofal ysbyty a’r cartref. Mae’r gwelyau’n gwasanaethu poblogaeth llawer fwy eang nag ardal gyfagos Gorseinon - mae cleifion o ardal Abertawe i gyd, ynghyd â rhai o ardal Castell-nedd Port Talbot yn derbyn gofal yna.
Ar wahân i Ward y Gorllewin, Mae Ysbyty Gorseinon hefyd yn gartref i ystod o wasanaethau gan gynnwys cleifion allanol, profion gwaed a gwasanaethau cymunedol. Ni fydd y gwasanaethau hyn yn cael eu heffeithio gan y cynllun i gau’r ward dros dro - Bydd Ysbyty Gorseinon yn parhau i fod yn rhan bwysig o ystâd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Yn berthnasol i Ward y Gorllewin yn benodol, mae lefelau uchel o salwch staff, a materion argaeledd eraill wedi arwain at ddefnydd uchel o staff asiantaeth a staff dros dro i lenwi bylchau ar sifftiau. Yn aml gall y canran o'r staff hwn fod mor uchel â 50% o’r staff sydd ar ddyletswydd. Mae hyn yn rhwystro gwaith tîm da ac yn rhoi pwysau ychwanegol ar staff parhaol sydd yn aml yn gorfod goruchwylio a chynnig cymorth i’r gweithwyr asiantaeth.
Mae nifer o bryderon wedi’u codi gan staff o amryw o ddisgyblaethau proffesiynol yng Ngorseinon ynghylch Ward y Gorllewin ac mae’r pryderon hyn yn parhau i gael eu codi. Er cymerwyd mesurau i fynd i’r afael â’r materion a godwyd, rydym yn glir nad ydynt wedi cael yr effaith angenrheidiol.
Nid yw hyn yn cael ei ystyried yn gynaliadwy. Mae’r cyngor clinigol mae’r Bwrdd wedi derbyn yn ystod ei gyfarfod heddiw (Dydd Iau 11 Medi) yn codi pryderon baner goch ddifrifol, ac mae angen i ni fynd i’r afael â hwy.
Dyma pam mae cynlluniau yn cael eu rhoi ar waith i achub y blaen ar ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â diogelwch trwy drosglwyddiad dros dro o 30 o welyau i Singleton o 1 Hydref. Bydd y bwrdd iechyd yn ystyried y cynlluniau hyn a’r rhesymeg tu cefn iddynt hwyrach y mis hwn wrth iddo wneud ei benderfyniad terfynol.
Bydd trosglwyddiad dros dro Ward y Gorllewin i Singleton a chydgyfnerthu'r staff perthnasol yno yn caniatáu timau i gefnogi ei gilydd. Bydd hefyd yn galluogi’r Bwrdd Iechyd i reoli pwysau staffio yn fwy effeithiol, a lleihau ein dibyniaeth ar staff asiantaeth.
Bydd trosglwyddo’r gwelyau hefyd yn sicrhau bod staff yn gallu cyrchu cymorth nyrsio, therapi a meddygol ehangach yn Singleton, ynghyd â chapasiti arweinyddiaeth.
Petai'r trosglwyddiad o welyau Ward y Gorllewin mynd yn ei flaen, bydd y Bwrdd Iechyd yn manteisio ar y cyfle i ddefnyddio’r gofod sydd yn dod yn rhydd yng Ngorseinon ar gyfer pwrpasau gofal iechyd eraill y GIG.
Yn y hir dymor, bydd y Bwrdd Iechyd yn ymgysylltu â’r cyhoedd ar y ffordd orau o ddarparu’r gwasanaeth ‘camu-i-lawr’ fel rhan o ddatblygiad ei Chynllun Gwasanaethau Clinigol. Bydd hyn yn edrych ar beth sydd yn cael ei ddarparu ledled gwasanaethau clinigol y Bwrdd Iechyd.
Bydd ymgysylltu o gwmpas ein Cynllun Gwasanaethau Clinigol yn cynnwys siarad â’r cyhoedd ar draws y rhanbarth ehangach, gan gynnwys Gorseinon. Byddwn yn trafod sut yr ydym am sicrhau bod yr ysbyty yn aros yn ganolfan byrlymus wedi’i ffocysu ar ofal iechyd ein poblogaeth leol - Dyma yw ein holl ffocws.
Nid oes unrhyw bwrpasau defnydd tu hwnt i waith y Bwrdd Iechyd yn cael eu hystyried ar gyfer Ward y Gorllewin yng Ngorseinon. Mae hyn yn wir am y tymor byr, tymor canolig a'r tymor hir ac nid oes unrhyw gais o’r fath wedi’i dderbyn.
Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, mae straeon ffug sydd i’w weld ar y we sydd yn crybwyll y bydd Ward y Gorllewin yn cael ei ail-bwrpasu fel llety i geiswyr lloches yn gwbl ddi-sail ac yn hollol anghywir.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.