Mae gwyddonydd clinigol hyfforddai o Fae Abertawe yn arwain y frwydr am newid cynaliadwy ar ôl graddio o academi arweinyddiaeth genedlaethol.
Cwblhaodd Yumna Hassan raglen saith mis o fewn Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol, a gynlluniwyd ar gyfer pobl 18–30 oed sy'n angerddol am ysgogi newid cadarnhaol yng Nghymru.
YN Y LLUN: Yumna Hassan gyda graddedigion eraill o Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol.
Dywedodd Yumna: “Yn fwy nag unrhyw beth, helpodd yr academi fi i weld y darlun ehangach - sut y gallaf gyfrannu at adeiladu systemau iachach a mwy tosturiol sy’n gwasanaethu pobl a’r blaned mewn gwirionedd.”
Mae hi bellach yn rhoi gwersi'r academi ar waith yn ei rôl o fewn tîm Gwasanaethau Rheoli Offer Meddygol y bwrdd iechyd.
Canolbwyntiodd yr academi ar ddeall a chymhwyso nodau a ffyrdd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (WBFGA), sy'n anelu at wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.
Roedd y cwrs yn cynnwys sgyrsiau gan wleidyddion, economegwyr, arweinwyr elusennau ac entrepreneuriaid cymdeithasol - pob un yn rhannu strategaethau ymarferol ar gyfer cyflawni newid cynaliadwy, hirdymor. Mynychodd Yumna gynadleddau hefyd ac adeiladodd rwydweithiau ar draws sectorau.
Dywedodd Yumna: “Er bod fy arbenigedd mewn peirianneg glinigol, mae fy rôl yn ymestyn ymhell y tu hwnt i reoli risg a diogelwch dyfeisiau meddygol.
“Rwy'n cyfrannu at wella ansawdd yn ehangach, datblygu gwasanaethau, ymchwiliadau i ddigwyddiadau ac archwiliadau - yn y bôn unrhyw faes lle gall arbenigedd peirianneg glinigol sbarduno newid ystyrlon a mesuradwy.
YN Y LLUN: Yumna gyda rhywfaint o'r offer meddygol y mae'n gweithio efo.
“Mae ein gwaith wedi’i integreiddio’n ddwfn ar draws y system gofal iechyd, gan gyfuno gwybodaeth dechnegol, meddwl systemau ac arweinyddiaeth prosiectau. Mae Gwyddonwyr Clinigol wedi’u hyfforddi i fod yn hynod amlbwrpas, ac mae hynny’n gwneud ein rôl yn ddeinamig ac yn hanfodol.
“Helpodd yr academi fi i weld sut y gall fy ngwaith mewn peirianneg glinigol gyd-fynd â nodau system ehangach, yn enwedig o ran presgripsiynu cymdeithasol, lles a chynaliadwyedd.”
Mae Yumna bellach yn rhannu ei brwdfrydedd a'i hawydd i ddod yn fwy cynaliadwy yn ei maes gwaith gyda'i chydweithwyr.
Dywedodd: “Mae fy angerdd dros gynaliadwyedd wedi’i wreiddio mewn cred gref bod pawb yn haeddu byw gydag urddas, yn gorfforol, yn feddyliol ac yn amgylcheddol.
“Arweiniodd hyn at fy niddordeb mewn presgripsiynu cymdeithasol, sy’n dod â’r elfennau hyn at ei gilydd ac yn mynd i’r afael â’r penderfynyddion cymdeithasol ehangach sy’n effeithio ar iechyd.
“Mae presgripsiynu cymdeithasol yn arf pwerus ar gyfer lles system gyfan a gwydnwch cymunedol, a’r dull integredig, sy’n seiliedig ar dosturi, sy’n ysbrydoli llawer o fy ngwaith cyfredol.
“O fewn peirianneg glinigol, mae gennym gyfle gwirioneddol i arwain ar gynaliadwyedd mewn rheoli technoleg gofal iechyd, ac rydym yn cofleidio'r cyfrifoldeb hwnnw.
YN Y LLUN: Mae Yumna yn gweithio i dîm Gwasanaethau Rheoli Offer Meddygol y bwrdd iechyd.
“Mae ein hadran wedi cymryd camau bwriadol i leihau ein heffaith amgylcheddol drwy gyflwyno biniau ailgylchu a phwyntiau gwaredu batris, cael gwared ar finiau gwastraff unigol bach i annog arferion cynaliadwy, a phasio Archwiliadau Gwyrdd yn llwyddiannus.
“Rydym hefyd yn edrych ar gaffael cynaliadwy ac ailddefnyddio neu ailgylchu offer meddygol yn ddiogel lle bynnag y bo’n briodol.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.