Mae Bae Abertawe yn dathlu llwyddiant dwbl yng Ngwobrau mawreddog GIG Cymru eleni.
Roedd prosiect i ailgynllunio gwasanaeth methiant y galon y bwrdd iechyd yn un o'r enillwyr, ynghyd â gwasanaeth yn y gymuned sy'n helpu pobl ag anghenion iechyd a lles cymhleth - tra'n cymryd pwysau oddi ar feddygon teulu.
Enillodd y prosiect ailgynllunio methiant y galon – Ddim yn Derbyn Methiant – yn y categori Darparu Iechyd a Gofal Gwerth Uwch.
Mae methiant y galon yn digwydd ar ddiwedd pob clefyd cardiofasgwlaidd, gan effeithio ar hyd at ddau y cant o'r boblogaeth.
Mae'n golygu nad yw'r galon yn gallu pwmpio gwaed o amgylch y corff, gyda symptomau'n cynnwys diffyg anadl, blinder, teimlo'n ben ysgafn neu'n llewygu, a ffêr neu goesau chwyddedig. Gall arwain at dderbyniadau i'r ysbyty.
Lansiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe brosiect i ailgynllunio a datblygu ei holl wasanaeth methiant y galon.
Wedi'i reoli gan y Tîm Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, roedd yn cynnwys clinigwyr, rheolwyr gwasanaeth a thimau cyllid a nododd bedair agwedd hanfodol ar wasanaeth methiant y galon.
O ganlyniad, sefydlwyd canolfan methiant y galon yn Ysbyty Gorseinon, i ddarparu clinig diagnostig methiant y galon bob dydd.
Roedd gwasanaeth cymunedol methiant y galon hefyd yn annog gweithio integredig rhwng ysbytai a thimau cymunedol, a lansiwyd clinig methiant y galon diagnostig mynediad cyflym hynod lwyddiannus yn 2020.
Yr ail enillydd, y tro hwn yn y categori Cyflenwi Gwasanaethau Person-Ganolog, oedd Clwstwr Cwmtawe am ei Wasanaeth Llwybr Cwmtawe.
Mae hyn yn cefnogi pobl sy'n cael trafferth gydag iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, cam-drin domestig, gan gynnwys trais rhywiol. Gall cymorth hefyd ymestyn i aelodau'r teulu y mae'r materion hyn yn effeithio.
Fe’i cyflwynwyd yn 2021 ar ôl i iechyd meddwl, cam-drin domestig a chamddefnyddio sylweddau gael eu nodi fel tri maes lle’r oedd y clwstwr – sy’n cynnwys Treforys, Clydach a Llansamlet – eisiau darparu gwasanaethau ychwanegol.
Mae'r gwasanaeth wedi arwain at ostyngiad o 60 y cant yn y galw ar feddygon teulu, yn ogystal â chynnydd o 98 y cant yn nifer y cleifion sy'n cael mynediad gwell at ffynonellau cymorth eraill.
Cyflwynwyd Gwobrau GIG Cymru i'r timau y tu ôl i'r prosiectau buddugol mewn seremoni rithwir.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru, Judith Pagett: “Hoffwn ddiolch i bob un o’n cystadleuwyr ysbrydoledig a llongyfarchiadau mawr i’r enillwyr.
“Rydym yn gwerthfawrogi eich gwaith gwella rhagorol yn fwy nag erioed, ar adeg pan fo’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd, er mwyn blaenoriaethu gofal cleifion.
“Mae’n bwysig cymryd yr amser i arddangos yr hyn yr ydych wedi bod yn gweithio mor galed arno fel y gallwn ddathlu eich cyflawniadau a hefyd dysgu oddi wrth ein gilydd. Edrychaf ymlaen at weld sut y bydd eich gwaith yn datblygu fel y gallwn helpu i drawsnewid iechyd a gofal hyd yn oed ymhellach.”
Noddwyd y gwobrau eleni gan Simply Do ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Ewch yma i ddarllen ein datganiad blaenorol i'r wasg ar Wasanaeth Llwybr Cwmtawe.
Ewch yma i ddarllen ein datganiad blaenorol i'r wasg ar y Gwasanaeth Methiant y Galon.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.