(Ffigurau'n gywir am 1pm 19/10/20. Sylwch: Mae'r cyfansymiau'n gronnol.)
Mae Ysbyty Treforys yn parhau i reoli achos o Covid-19 yng ngwasanaethau cardiaidd.
Yn anffodus, mae nifer fach o wardiau eraill hefyd yn rheoli brigiadau tebyg ond heb gysylltiad.
Mae staff ysbytai yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i reoli'r achosion yn ofalus a chyfyngu lledaeniad yr haint, wrth wneud popeth o fewn eu gallu i amddiffyn gwasanaethau cleifion.
Ar draws yr ysbyty, mae cyfanswm o 39 o gleifion a 28 aelod o staff wedi profi'n bositif am Covid-19 hyd yma.
Mae rhai o'r cleifion hyn wedi cael eu rhyddhau adref gyda'r cyngor priodol. Mae'r rhai sy'n aros yn yr ysbyty yn cael eu rheoli'n ofalus.
Mae staff sydd wedi profi'n bositif a'u cysylltiadau yn ynysu gartref.
Mae'r holl wardiau yr effeithir arnynt ar gau i gleifion newydd ac mae llawfeddygaeth gardiaidd arferol wedi'i chynllunio yn parhau i fod wedi’u hatal.
Fodd bynnag, mae cleifion brys yn dal i dderbyn gofal gan staff sy'n gweithio o fewn trefniadau rheoli heintiau llym.
Dywedodd Cyfarwyddwr Uned Ysbyty Treforys, Deb Lewis, a’r Cyfarwyddwr Nyrsio Mark Madams: “Hoffem gofnodi ein diolch i’r staff yn Ysbyty Treforys, sy’n ymateb yn odidog, gan ddangos gwytnwch a dewrder mawr, wrth barhau i roi cleifion wrth galon popeth maen nhw'n eu gwneud. ”
Yn Ysbyty Singleton, mae achos ymhlith staff mamolaeth yn parhau i fod yn sefydlog, ac ni adroddwyd am unrhyw achosion Covid-19 newydd. Fel o'r blaen, nid oes tystiolaeth o drosglwyddiad i famau a babanod.
Dywedodd Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol BIP Bae Abertawe, yr Athro Richard Evans: “Mae hwn yn parhau i fod yn gyfnod heriol iawn i’r GIG cyfan. Hoffem sicrhau cleifion bod eu diogelwch hwy a diogelwch ein staff o'r pwys mwyaf ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu, gan weithio gyda'n cydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, i leihau lledaeniad y feirws wrth leihau'r effaith ar ein gwasanaethau.
“Ar wahân i effaith yr achosion penodol hyn, mae ein hysbytai hefyd yn teimlo’r pwysau o gynyddu trosglwyddiad y feirws yn y gymuned, gan arwain at dderbyn nifer cynyddol o bobl i’r ysbyty.
“Fore Llun ar draws ein safleoedd roedd gennym gyfanswm o 62 o gleifion gyda Covid-19 a 25 yn amau bod gennynt yr haint. Mae hynny'n 31 yn fwy o gleifion â Covid-19 wedi'u cadarnhau a'u hamau na ddydd Gwener, Hydref 16eg.
“Mae'r ffigurau hyn yn dangos yn glir yr effaith y mae'r feirws yn cael ar ein gwasanaethau iechyd lleol.
“Mae olrhain cyswllt wedi nodi bod cysylltiadau cartref a gweithleoedd yn parhau i fod yn ffynhonnell haint sylweddol ac mae’r heintiau cymunedol hynny yn cael sgil-effaith ar ein hysbytai.
“Rydym yn deall bod hon yn sefyllfa hynod o heriol, yn enwedig wrth i ni fynd i mewn i’r sesiwn atal coronafeirws am bythefnos. Mae'n bwysig pwysleisio, serch hynny, nad problem i un rhan o’r gymdeithas yn unig yw hon, a dyna pam mae'n rhaid i ni i gyd ddilyn y rheolau a lleihau lledaeniad yr haint peryglus hwn. "
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.