Neidio i'r prif gynnwy

Atal cwympiadau - tri chwestiwn a allai eich helpu chi neu'ch anwylyd i aros yn ddiogel

Dyn yn gorwedd ar lawr a

Bob blwyddyn, bydd mwy na 200,000 o bobl yng Nghymru yn cwympo, gyda llawer yn dioddef gofid, anaf difrifol a cholli hunanhyder ac annibyniaeth.

Mae cwympiadau ac anafiadau cysylltiedig yn gyffredin ac yn gyrru'r galw am ofal brys ac argyfwng. Nhw yw prif achos digwyddiadau o fewn GIG Cymru ac yn genedlaethol, cwympiadau yw'r ail ffactor mwyaf cyffredin mewn damweiniau o amgylch y cartref.

Mae ffigurau diweddar yn dangos y bydd 30 y cant o bobl 65 oed a throsodd yn dioddef o leiaf un cwymp y flwyddyn. Mae'r ffigur hwn yn codi i 50 y cant ar gyfer y rhai dros 80 oed.

Ac eto mae modd atal llawer o gwympiadau a heddiw, fel rhan o ymgyrch atal cwympiadau Aros yn Gall, Aros yn Ddiogel rydym yn amlinellu tri chwestiwn syml i'w gofyn yn rheolaidd - i ni ein hunain, ein cleifion, teuluoedd a ffrindiau - i sicrhau bod mwy o bobl yn osgoi canlyniadau sy'n newid bywydau ar ôl cwympo.

Wedi'u hawgrymu gan dîm atal cwympiadau cenedlaethol Cymru, mae'r cwestiynau'n arbennig o berthnasol i bobl dros 60 oed ac unrhyw un sydd mewn mwy o berygl o gwympo:

  1. Ydych chi wedi cwympo yn ystod y flwyddyn ddiwethaf?
  2. A yw eich symudedd wedi newid?
  3. Oes gennych chi ofn cwympo?

 

Gallai gofyn y cwestiynau hyn agor sgyrsiau a chael y gefnogaeth gywir i bobl ar yr amser cywir.

“Gall effaith cwymp ar unigolyn fynd ymhell y tu hwnt i rywbeth fel pen-glin wedi’i daro. Gall arwain at ddiffyg hyder, gyda llawer wedyn yn rhoi’r gorau i weithgareddau neu’n mynd allan, ac o ganlyniad yn mynd yn wannach, gan arwain at gwympiadau pellach,” meddai arweinydd gwella ansawdd Bae Abertawe ar gyfer cwympiadau, Eleri D’Arcy.

Dros yr ychydig wythnosau nesaf, byddwn yn tynnu sylw at rai o'r newidiadau a'r dewisiadau syml, sydd bron pob un ohonynt heb gostio ceiniog, a all helpu i leihau'r risg o gwympo'n sylweddol. Byddwn hefyd yn dangos i chi'r peryglon o amgylch y cartref neu'r lle preswyl sy'n cyflwyno risgiau y gellir eu hosgoi.

Am ragor o gymorth a chyngor, cyfeiriwch at y dolenni isod:

Dilynwch y ddolen hon i ddod o hyd i lawer o wybodaeth ddefnyddiol am atal cwympiadau ar ein gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

 

Dilynwch y ddolen hon i gael mynediad at wybodaeth am atal cwympiadau ar wefan Age Cymru.
 

Dilynwch y ddolen hon i ddod o hyd i fwy o awgrymiadau am atal cwympiadau ar wefan Gofal a Thrwsio Cymru.
 

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen mwy am atal cwympiadau ar wefan Age Connects Cymru.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.