Neidio i'r prif gynnwy

Arglwydd Faer yn Cefnogi Apêl Elusen Canser Abertawe

Mae Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Cheryl Philpott, wedi dewis apêl Mynd y Filltir Ychwanegol dros Ganser Elusen Iechyd Bae Abertawe fel ei helusen swyddogol ar gyfer y flwyddyn. Mae ei chefnogaeth eisoes yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran codi ymwybyddiaeth ac arian hanfodol ar gyfer Canolfan Canser De-orllewin Cymru (SWWCC) yn Ysbyty Singleton.

Llwyddiant Parti Te Prynhawn Mefus

Un o uchafbwyntiau codi arian yr Arglwydd Faer hyd yn hyn oedd y Parti Te Prynhawn Mefus, a gynhaliwyd yn y Plasty ac a fynychwyd gan tua 140 o westeion. Roedd y digwyddiad yn cyfuno dathliad haf â phwrpas elusennol, gan ddod â chefnogwyr, cleifion a staff ynghyd i gefnogi gwasanaethau canser lleol.

Ymhlith y rhai a fynychodd roedd aelodau staff y Ganolfan Ganser Sarah Dawtry a Nicki Davies, a siaradodd â gwesteion am waith hanfodol y ganolfan a sut mae arian elusennol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cleifion a staff.

Dywedodd Sarah: “Mae’n fraint gweithio gyda’r Arglwydd Faer, ac rydym wrth ein bodd ei bod wedi dewis yr ymgyrch Mynd y Filltir Ychwanegol fel ei helusen ar gyfer ei blwyddyn yn y swydd. Defnyddir yr holl elw a godir i gefnogi cleifion, eu teuluoedd a staff Canolfan Canser De-orllewin Cymru.”

Lawnsio'r ymgyrch "Punt y Pen"

Canolbwynt cefnogaeth yr Arglwydd Faer yw'r ymgyrch Punt y Pen, sy'n lansio ym Marchnad Abertawe ar ddydd Sadwrn, 11 Hydref am 12pm. Bydd y lansiad yn cynnwys perfformiad gan Gôr Phoenix Cymru, ochr yn ochr ag ymddangosiadau gan westeion arbennig gan gynnwys y seren radio a phanto poblogaidd Kev Johns.

Mae'r ymgyrch yn gwahodd i bawb yn Abertawe i gyfrannu £1 tuag at darged codi arian £200,000 yr apêl. Bydd masnachwyr y farchnad hefyd yn ymuno, bydd bocsys casgliadau ar gael ar stondinau ar draws y farchnad dan do.

Dywedodd y Cynghorydd Philpott: “Dau o fy uchelgeisiau pan ddes i’n Arglwydd Faer oedd codi cymaint o arian â phosibl ar gyfer Canolfan Ganser De-orllewin Cymru, a helpu i hyrwyddo ein marchnad dan do wych. Rwy'n falch iawn o gyfuno'r ddau ar gyfer lansio apêl Punt y Pen. Pe bai pob un o 250,000 o drigolion Abertawe yn rhoi £1, byddem yn cyrraedd ein targed mewn dim o dro.”

Ychwanegodd Lewis Bradley,  Rheolwr Elusen Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: “Rydym mor gyffrous bod yr Arglwydd Faer yn cefnogi apêl Mynd y Filltir Ychwanegol dros Ganser trwy’r ymgyrch Punt y Pen. Mae Marchnad Abertawe wrth wraidd y gymuned, ac mae'r ymgyrch hon yn gyfle gwych i ddod â phobl ynghyd â chodi arian hanfodol ar gyfer gofal canser.”

Mae ymgyrch codi arian yr Arglwydd Faer i barhau gyda chyfres o ddigwyddiadau mawr. Bydd hyn yn cynnwys dau ddigwyddiad unigryw i wahoddiad yn unig, yn ogystal â Pherfformiad Amrywiol Derbyniad Dinesig yr Arglwydd Faer ar 22 Ebrill 2026, Theatr y Grand Abertawe. Bydd hwn yn ddigwyddiad cyhoeddus ar raddfa fawr gyda hyd at 850 o docynnau ar gael, yn cynnwys perfformiadau gan artistiaid lleol gyda'r elw'n cefnogi'r apêl.

Yn ogystal, bydd tirnodau eiconig Abertawe, gan gynnwys Arena Abertawe, yn cael eu goleuo yn lliwiau'r elusen i ddangos undod â'r apêl.

Am yr apêl

Nod apêl Mynd y Filltir Ychwanegol dros Ganser Elusen Iechyd Bae Abertawe yw codi £200,000 i drawsnewid yr hen Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Singleton yn ystafell cleifion allanol fodern a chroesawgar. Bydd y lle newydd hwn yn darparu amgylchedd cynnes a chefnogol i gleifion a'u teuluoedd yn ystod rhai o gyfnodau anoddaf eu bywydau.

Am Elusen Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Elusen Iechyd Bae Abertawe yw elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, sy'n rheoli cronfeydd elusennol amrywiol sy'n cefnogi ystod eang o adrannau a gwasanaethau. Mae rhoddion yn mynd ymhellach nag ariannu craidd y GIG i gefnogi gwaith ymchwil, offer technegol, gwella cyfleusterau, lles cleifion a theulu a datblygu staff. Mae'r mentrau hyn yn gwella'r ansawdd gofal yn uniongyrchol a gwella canlyniadau cleifion.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.