Mae arbenigwyr llosgiadau ym Mae Abertawe yn annog pobl i gymryd gofal arbennig y penwythnos hwn i osgoi ychwanegu at y doll flynyddol o anafiadau difrifol mewn damweiniau coelcerth a thân gwyllt.
Ysbyty Treforys yw’r Ganolfan Llosgiadau Trydyddol i Oedolion ar gyfer y De Orllewin, gyda chleifion yn cael eu hanfon o wasanaethau eraill yn Plymouth, Salisbury a Bryste.
Dros y degawd diwethaf, mae tua 40 o bobl bob blwyddyn wedi bod angen triniaeth mewn unedau llosgiadau arbenigol ar draws y de orllewin o ganlyniad i ddamweiniau tân gwyllt, a 100 o ganlyniad i ddamweiniau tân gwyllt. Mae llawer mwy yn dioddef mân losgiadau, y gellir eu trin yn lleol.
Dywedodd Jeremy Yarrow (yn y llun) , Llawfeddyg Llosgiadau a Phlastig Ymgynghorol yng Nghanolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru yn Abertawe: “Bob blwyddyn, mae ysbytai yn y de orllewin yn gweld y canlyniadau pan fydd coelcerthi a thân gwyllt yn mynd o chwith. Gall llosgiadau fod yn erchyll, hyd yn oed yn angheuol, felly byddem yn annog pawb i ddilyn canllawiau’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA) a’r cod tân gwyllt – yn enwedig pan fo plant o gwmpas.
“Ewch i ddigwyddiad sydd wedi'i drefnu'n iawn os yn bosibl, ac os na allwch chi, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n prynu tân gwyllt trwyddedig a dilynwch yr holl gyfarwyddiadau.
“Mae pobl yn tueddu i feddwl na all ddigwydd iddyn nhw. Ond bob blwyddyn, mae’n digwydd – i blant ac oedolion fel ei gilydd.”
Mae RoSPA yn cynghori mai'r lle mwyaf diogel i fwynhau tân gwyllt yw arddangosfa gyhoeddus fawr gan fod y risg o gael eich anafu yn llawer is nag mewn partïon teuluol neu breifat llai.
Mae hefyd yn rhoi cyngor ar ei wefan ar sut i aros yn ddiogel o amgylch ffyn gwreichion, coelcerthi a thân gwyllt. Dilynwch y ddolen hon i fynd i wefan RoSPA .
Mae nifer y bobl sy'n ymweld â thudalen cyngor llosgiadau a sgaldiadau gwefan y GIG yn cynyddu chwarter (27%) yn ystod penwythnos noson tân gwyllt. Mae'r dudalen yn derbyn 8,208 o ymweliadau ar gyfartaledd yn ystod y penwythnos tan gwyllt - sy'n cyfateb i un ymweliad bob 21 eiliad.
Mae’r dudalen yn rhoi cyngor cymorth cyntaf ar drin llosgiadau a sgaldiadau, megis:
Ewch i dudalen cyngor llosgiadau a sgaldiadau gwefan y GIG trwy glicio ar y ddolen hon. Sylwir os gwelwch yn dda bod rhai dolenni allanol ddim ar gael yn y Gymraeg.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.