Mae cleifion oedrannus yn profi i fod yn wenyn prysur trwy wneud y gorau o'r planhigion a'r heddwch mewn 'gardd ddirgel' yn Ysbyty Gorseinon.
Mae pobl â Covid hir wedi bod yn canu clodydd prosiect newydd gyda'r nod o leddfu eu symptomau a hybu eu lles.
Mae staff glanhau ar ward Ysbyty Treforys wedi cael eu huwchsgilio i lanhau gwelyau ac offer clinigol, gan arwain at newid cyflymach o welyau a nyrsys yn gallu treulio mwy o amser ar ddyletswyddau clinigol.
Ymunodd y meddyg enwog Hussain Al-Zubaidi â rhedwyr Bae Abertawe i helpu i nodi 75 blynedd ers sefydlu'r GIG gyda digwyddiad parkrun arbennig.
Bydd pobl sy’n goresgyn argyfwng iechyd meddwl yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau fel yoga a tai chi i helpu gyda’u hadferiad.
Mae dyddiau siartiau cyffuriau papur hen ffasiwn ar ddiwedd gwelyau bron ar ben, wrth i bresgripsiynu electronig drawsnewid y ffordd y mae meddyginiaeth yn cael ei rheoli yn ysbytai Bae Abertawe.
Mae staff wedi bod yn mynd i draethau Bae Abertawe ar gyfer sesiynau sy'n cynnig mwy na dim ond haul, môr a thywod.
Mae staff iechyd meddwl Bae Abertawe wedi cael cipolwg dadlennol ar sut beth yw bywyd mewn gwirionedd i'r rhai sy'n byw gyda dementia.
Mae aelod uwch o dîm nyrsio Bae Abertawe wedi'i enwi ymhlith 75 o nyrsys mwyaf dylanwadol y DU mewn rhestr o fri sy'n nodi penblwydd 75 y GIG yr wythnos hon.
Wrth i'r GIG ddathlu ei benblwydd yn 75, mae claf cardiaidd sydd wedi gael gosod stentiau newydd fwy na degawd ar ôl ei set gyntaf wedi dweud diolch yn fawr iawn i'r timau y tu ôl i'w ofal.
Gwnaeth Dindi Gill yr achos dros EMRTS sy'n dod â sgiliau damweiniau ac achosion brys i leoliad damweiniau
Mae cerddoriaeth yn profi i fod yn boblogaidd gyda chleifion a staff yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot.
Mae rhith-wirionedd (VR) yn helpu cleifion mewn uned ysbyty ddiogel i brofi'r awyr agored.
Mae sganiwr a fydd yn chwarae rhan hanfodol wrth ganfod canser ar ei ffordd i Ysbyty Castell Nedd Port Talbot - ac nid yw wedi costio ceiniog i'r GIG.
Fel rhan o ddathliadau mis Gorffennaf i nodi 75 mlynedd ers sefydlu'r GIG, mae parkrun Bae Abertawe yn cysegru'r rasys hŷn ac iau ar 8/9 Gorffennaf i'n gwasanaeth iechyd.
Mae teyrnged awyr agored ingol a pharhaol i effaith pandemig Covid-19 yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn cael ei dadorchuddio o'r wythnos hon ymlaen, gan ddechrau gyda digwyddiad arbennig yn Ysbyty Treforys.
Mae tîm o nyrsys ardal Bae Abertawe ar fin ehangu, gan ei gwneud hi'n haws i gleifion dderbyn gofal gartref.
Mae teulu a ffrindiau parafeddyg uchel ei barch a fu farw gyda Covid wedi rhoi yn ôl yn hael i'r uned a oedd yn gofalu amdano.
Mae mwy o gleifion nag erioed ar draws Bae Abertawe yn elwa o wasanaeth sy'n darparu gofal yn eu cartrefi eu hunain yn hytrach nag yn yr ysbyty.
Mae gwasanaeth arloesol ym Mae Abertawe sy’n defnyddio celf fel llwyfan i fynd i’r afael ag iechyd meddwl, lles a thrawma ymhlith staff wedi cyrraedd y rhestr fur ar gyfer gwobr genedlaethol.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.