Diolch am eich diddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni! Yma gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y gwahanol rolau gwirfoddol sydd ar gael a sut i gymryd rhan mewn gwirfoddoli ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Noder na fydd yr holl gyfleoedd hyn ar agor i'w recriwtio ar hyn o bryd, edrychwch ar y ffurflen gais am y rolau sydd ar gael ac amseroedd sifftiau sydd eu hangen.
Byddwch yn ymwybodol y gallai fod cyfnodau pan nad oes swyddi ar gael i wneud cais amdanynt.
Os hoffech siarad â ni am wirfoddoli neu os oes gennych unrhyw gwestiynau cyn gwneud cais, mae croeso i chi gysylltu â ni.
E-bost: BIPBA.CanolfanGwirfoddoli@wales.nhs.uk
Ffôn: 01792 703290
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.