Mae cael ceg afiach a dannedd pydredig yn effeithio ar eich iechyd cyffredinol. Nid newyddion drwg i'ch dannedd yn unig yw clefyd y deintgig, gall hefyd gael ei gysylltu â phroblemau iechyd difrifol mewn rhannau eraill o'ch corff a gall gynyddu eich risg o gymhlethdodau gan gynnwys strôc, diabetes a chlefyd y galon.
Y newyddion da yw y gall brwsio eich dannedd yn iawn a gofalu am eich deintgig atal a thrin clefyd y deintgig, gwella eich iechyd cyffredinol a helpu i leihau eich risg o broblemau iechyd pellach.
Mae hefyd yn arbennig o bwysig gofalu am eich dannedd a'ch deintgig os ydych chi'n feichiog. Mae gofal deintyddol y GIG am ddim i fenywod beichiog ac yn ystod y 12 mis ar ôl i chi roi genedigaeth.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.