Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau arbenigol eraill a byrddau iechyd cyfagos i wella'r gofal y mae cleifion yn ei dderbyn.
Mae hyn yn golygu bod mwy nag un tîm - fel therapïau seicolegol; timau iechyd meddwl cymunedol; staff allgymorth hyderus, timau gwasanaethau datrys argyfyngau a chyswllt gofal iechyd sylfaenol/gweithwyr porth - yn cydweithio i ddatblygu cynlluniau gofal a thriniaeth unigol.
Cynigir gofal a thriniaeth i fenywod beichiog a mamau newydd gan ein gwasanaeth perinatal.
Mae gennym wardiau asesu a derbyn yn ysbytai Cymunedol Cefn Coed, Castell-nedd Port Talbot, Tonna ac Ystradgynlais.
Rydym hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda staff y ddalfa a'r carchar. Mae tîm iechyd meddwl mewnol y carchar wedi'i leoli yng Ngharcharau Ei Mawrhydi Parc ac Abertawe ac mae tîm mewnol yn gweithio gyda staff y ddalfa heddlu.
Gall y gwasanaethau hyn gael eu datblygu ar gyfer pobl dros 65 oed, ond maent yn canolbwyntio ar anghenion unigol person. Felly mae hyn yn golygu bod pobl iau sydd â salwch sydd fel arfer yn effeithio ar bobl hŷn, fel dementia, hefyd yn cael cynnig cymorth arbenigol.
Unwaith eto, rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill. Mae ein timau iechyd meddwl cymunedol pobl hŷn yn gweithio gydag asiantaethau arbenigol a sefydliadau gwirfoddol. Mae hyn yn ein helpu i ddarparu gofal a thriniaeth wedi'u teilwra. Mae gwasanaethau'n cynnwys triniaeth/cymorth ac arhosiad cartref; cymorth cartref dwys; gofal a rennir cyswllt seiciatrig; clinigau cof; addysg gofal sylfaenol a chyffuriau ar gyfer clinigau dementia, clybiau lloeren.
Gall cleifion hefyd dreulio amser gyda ni yn un o'n hysbytai ar gyfer asesiad a derbyniad neu ofal parhaus a seibiant.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.