Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau a chefnogaeth Iechyd Meddwl

Pa wasanaethau iechyd meddwl rydyn ni'n eu cynnig?

Gan weithio'n agos gyda'n partneriaid, rydym yn cynnig cymorth, gofal a thriniaeth iechyd meddwl i oedolion 18-65 oed a phobl hŷn dros 65 oed o'n hysbytai, clinigau cymunedol ac weithiau yng nghartrefi cleifion. Rydym hefyd bellach yn darparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaethau camddefnyddio sylweddau rhanbarthol, ac rydym yn gyfrifol am wasanaethau iechyd meddwl fforensig ar gyfer de, canolbarth a gorllewin Cymru.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.